Gwybodaeth am y Tîm
Mae gan Gonwy dîm canolog o swyddogion sy’n cefnogi cynhwysiant a darpariaethau effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, lleoliadau ac asiantaethau eraill er mwyn diwallu anghenion unigolion yn ogystal â datblygu ein gwasanaethau a’n darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghonwy.
Mae’r tîm yn mynd drwy broses o newid i ymateb i’r newidiadau ar draws Cymru a’r system ADY newydd. Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu'r newidiadau rydym ni'n eu gwneud.
I dderbyn rhagor o wybodaeth am y timau unigol sy’n ffurfio’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, a’u manylion cyswllt, cliciwch ar y dolenni isod.
- Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
- Athrawon ADY / Cynhwysiant
- Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd (Nam ar y Golwg a’r Clyw)
- Gwasanaeth Cymorth Dysgu (Anawsterau Dysgu Penodol)
- Gwasanaeth Allgymorth Awtistiaeth
- Tîm Anhwylder Iaith a Lleferydd Arbenigol
- Gwasanaeth Cwnsela yn yr Ysgol
- Blynyddoedd Cynnar
- Post 16
Additional Learning Needs Team:
Telephone: 01492 575031
Email: aln@conwy.gov.uk / ady@conwy.gov.uk