Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Newidiadau i'r gyfraith yng Nghymru


Summary (optional)
Mae’r dudalen hon yn egluro sut mae’r gyfraith yng Nghymru wedi newid ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
start content

Mae’r dull o gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol bellach wedi newid. Pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd, o’r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018, a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2021, sy’n disodli’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau presennol ar anghenion addysgol arbennig.

Mae'r prif newidiadau’n cynnwys:

  • Dod â'r holl systemau presennol at ei gilydd mewn un system newydd ar gyfer ADY.
  • Canolbwyntio mwy ar y dysgwr.
  • Rhoi'r un hawliau i ddysgwyr beth bynnag fo'u hoedran neu leoliad.
  • Gwella pontio rhwng lleoliadau.
  • Darparu darpariaeth Gymraeg lle bo angen.
  • System deg a thryloyw i bawb.Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd plant

a’u rhieni a phobl ifanc yn:

  • Cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynt.
  • Cymryd mwy o ran wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau a'r cymorth sydd ei angen arnynt.
  • Gallu dod o hyd i wybodaeth yn haws nag o'r blaen.
  • Cael eu cefnogi os ydynt yn anghytuno gyda phenderfyniadau.
  • Gallu apelio yn erbyn penderfyniadau i'r Tribiwnlys Addysg.


Mae’r gyfraith newydd yn dweud bod ‘plentyn’ yn golygu unigolyn o dan oedran ysgol gorfodol (16 oed), tra bod ‘person ifanc’ yn rhywun rhwng 16 a 25 oed dros oedran ysgol gorfodol.

Bydd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau nawr yn cael cymorth am gyfnod hwy gan ddefnyddio un system.  Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn gallu cael cymorth tan 25 oed.

Ar gyfer pobl ifanc 16 oed neu hŷn, nhw fydd y prif berson sy’n gwneud penderfyniadau, fodd bynnag mae’n bosibl y byddant am ofyn i’w rhieni eu helpu i wneud penderfyniadau o hyd. Gallant hefyd ofyn am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gan rywun diduedd.

Bydd y system newydd hon yn diogelu hawliau pob plentyn, waeth beth fo graddau eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Be' sy'n newid?

O fis Medi 2021, dros gyfnod o dair blynedd, mae’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yn disodli’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) flaenorol yn raddol. Yn ogystal â'r newid enw, mae cyfrifoldebau tuag at blant a phobl ifanc ag ADY yn newid hefyd.

Bydd gan bob plentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Gynllun Datblygu Unigol (CDU) a fydd yn disodli’r Datganiadau AAA, Cynlluniau Addysg Unigol a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau cyfredol.

Bydd gan ddysgwyr ag unrhyw lefel o Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) ar eu cyfer, hawl i CDU yn amlinellu eu hanghenion cymorth.  Bydd y system newydd hon yn diogelu hawliau pob plentyn, waeth beth fo graddau eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Pan wneir y newidiadau, beth fydd yn digwydd i Ddatganiadau presennol?

Bydd unrhyw Ddatganiadau AAA presennol yn parhau i fod yn ddogfennau cyfreithiol hyd nes bydd CDU yn eu disodli neu hyd nes y byddwch chi neu'ch plentyn yn gadael addysg.

Y ‘Dyletswydd Gwneud Penderfyniad’ newydd ar Ysgolion, Colegau ac Awdurdodau Lleol

Pan fydd ysgol, coleg neu ALl yn cael ei ‘hysbysu’ y gallai fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol [ADY], RHAID iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc hwnnw anghenion dysgu ychwanegol oni bai:

  • Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) eisoes yn ei le ar gyfer y plentyn neu berson ifanc.
  • Mae penderfyniad eisoes wedi ei wneud ac mae’r ysgol yn fodlon nad yw anghenion y plentyn wedi newid ers y penderfyniad hwnnw ac nid oes unrhyw wybodaeth newydd.
  • Nid yw’r person ifanc (16+) yn cydsynio (cytuno) i’r penderfyniad gael ei wneud.

Taflen ffeithiau am anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer:

end content