Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Anghenion Dysgu Ychwanegol


Summary (optional)
start content

ALN-banner

Mae pob rhiant eisiau i’w plant wneud yn dda yn yr ysgol. Mae plant a phobl ifanc yn dysgu ar wahanol gyfraddau, ac efallai fod ganddynt wahanol ddigwyddiadau yn eu bywyd a allai effeithio ar gyfradd eu dysgu.

Gall ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol helpu’r mwyafrif o blant a phobl ifanc i ddod dros yr anawsterau hyn. I rai, mae'r anawsterau yn rhai tymor byr.

Efallai bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar blant a phobl ifanc eraill i gyflawni eu potensial. Mae hyn efallai oherwydd bod ganddynt angen dysgu ychwanegol, sy’n golygu bod ganddynt anhawster neu anabledd dysgu sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Efallai bydd angen cefnogaeth ychwanegol mewn meysydd penodol ar rai yn eu haddysg, tra bo eraill angen cymorth gyda mwyafrif o agweddau eu haddysg.

Mae gan blant/pobl ifanc anhawster neu anabledd dysgu os oes ganddynt anhawster llawer mwy wrth ddysgu na'r mwyafrif o blant a phobl ifanc eraill o'r un oedran; neu os oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag gwneud defnydd o gyfleusterau ysgol neu goleg arferol.

 

end content