Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Pecyn Gwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 0 - 25 mlwydd oed Conwy a Sir y Fflint

Pecyn Gwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 0 - 25 mlwydd oed Conwy a Sir y Fflint


Summary (optional)
start content

Mae Pecyn Gwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 0 - 25 mlwydd oed Conwy a Sir y Fflint wedi’i anelu at bob darparwr a lleoliad addysgol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc 0 - 25 oed Conwy.

Mae’r pecyn gwaith hwn yn cyflwyno ieithwedd a dull gweithredu cyffredin i gefnogi’r holl fudd-ddeiliaid i feithrin dealltwriaeth ar y cyd o anghenion plant a phobl ifanc a’r amrywiaeth o ymyriadau addas sydd ar gael i sicrhau y bodlonir yr anghenion hynny’n brydlon.

Mae’n cynnig ymateb graddedig, gan gydnabod fod yno gontinwwm o anghenion sy’n golygu bod yn rhaid adnabod achosion ac ymyrryd yn gynnar, o’r sylfaen o addysgu gwahaniaethol o ansawdd uchel a darpariaeth gynhwysol hyd y gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i’r rhai hynny sydd â’r anghenion mwyaf.

Lawrlwytho'r Pecyn Cymorth ADY Conwy a Sir y Fflint (PDF, 7MB)

end content