Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Diwrnodau Amgylcheddol

Diwrnodau Amgylcheddol


Summary (optional)
Darganfyddwch fwy am ein Diwrnodau Amgylcheddol ac i weld a oes un yn cael ei gynnal yn eich ardal chi.
start content

Beth yw Diwrnod Amgylcheddol Cymunedol?

Mae Diwrnodau Amgylcheddol Cymunedol yn cael eu cynnal gan y Cyngor er mwyn:

  • Annog eich cymuned i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol yn yr ardal
  • Lleihau ôl-troed carbon eich cymuned gan eich helpu chi i ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl
  • Eich cefnogi chi a thrigolion eraill i greu awyrgylch o falchder bro yn eich cymuned

Pa wasanaethau sydd ar gael?

  • Bydd staff y Cyngor a grwpiau gwirfoddol dan oruchwyliaeth o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru yn codi sbwriel ac yn cael gwared ar dipio anghyfreithlon
  • Bydd y Tîm Ymateb Amgylcheddol yn ymgymryd â thasgau bychain fel glanhau graffiti, peintio a chlirio      draeniau
  • Compost am ddim: dewch â chynhwysydd addas efo chi i ddal y compost
  • Gwasanaeth gwaredu gwastraff swmpus: bydd sgip a gweithiwr wrth law i’ch helpu chi waredu eitemau      swmpus (fel matresi, hen welyau, tuniau paent, setiau teledu, dodrefn gardd ac ati) neu wastraff gardd Byddwn yn mynd â’r holl bethau yn ôl i’n cyfleuster didoli i ailgylchu cymaint ohonynt â phosibl.

Ni allwn gasglu gwastraff swmpus o’ch cartref ar ddyddiau amgylcheddol. Os na allwch chi ddod â’ch gwastraff swmpus i’n sgip ni, gallwch archebu a thalu am gasgliad gwastraff swmpus ar lein neu ffonio ein Tîm Cyngor ar 01492 575337.

Lle a phryd mae'r Diwrnodau Amgylcheddol Cymunedol?

Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â Diwrnodau Amgylcheddol, defnyddiwch y ffurflen Cysylltu â Ni

end content