Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Treth y Cyngor Cynllun Disgresiynol Costau Byw

Cynllun Disgresiynol Costau Byw


Summary (optional)
start content

Mae’r Cynllun Disgresiynol Costau Byw wedi gorffen.

Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o fesurau i helpu pobl gydag argyfwng costau byw. Roedd hyn yn cynnwys y prif gynllun (£150 o daliad costau byw i aelwydydd cymwys) a’r cynllun disgresiynol i ddarparu cymorth at ddibenion eraill yn ymwneud â chostau byw. Wrth ddatblygu cynllun disgresiynol lleol, roedd awdurdodau lleol yn gallu penderfynu ar ddyluniad y cynllun a thargedu’r arian a oedd ar gael i gefnogi anghenion eu preswylwyr yn y ffordd orau bosibl. 

Mae Cynllun Disgresiynol Costau Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel a ganlyn -

£80 ychwanegol i breswylydd a oedd â hawl i Ostyngiad Treth y Cyngor LLAWN i dalu’r Dreth Gyngor ar 15 Chwefror, 2022 (yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd ar gael ar ddechrau mis Awst 2022).

£150 ar gyfer y rhieni/gwarcheidwaid hynny a oedd yn cael Prydau Ysgol am Ddim ar gyfer eu plentyn/plant sy’n byw ac yn mynychu ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy ar 15 Chwefror, 2022, a oedd yn cael yr incwm cymhwyso perthnasol ac nad oeddent wedi cael Taliad Costau Byw dan y prif gynllun.

£230 i bobl a oedd yn cael Budd-dal Tai yn unig ar 15 Chwefror, 2022 (yn seiliedig ar wybodaeth a oedd ar gael ddechrau mis Awst 2022) lle nad oedd Taliad Costau Byw o dan y prif gynllun wedi’i ddyfarnu.

£150.00 i aelwydydd y Sector Cymdeithasol (tenantiaid Cymdeithasau Tai) ym Mandiau Treth y Cyngor E – I

£150.00 i aelwydydd sy’n hawlio’r gostyngiad anabledd ym Mandiau Treth y Cyngor F – I

£150.00 i aelwydydd a oedd yn gymwys i gael eu heithrio rhag talu Treth y Cyngor ar y dyddiad cymhwyso, sef 15 Chwefror 2022

Os ydych chi’n gymwys dan unrhyw un o’r penawdau uchod, byddwch yn derbyn llythyr ynglŷn â hynny. Bydd arnoch chi wedyn angen dilyn y cyfarwyddiadau ar y llythyr i gasglu’r taliad o’ch Swyddfa Bost leol o fewn y raddfa amser.

Os oes arnoch chi angen cysylltu â’r Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau bydd y manylion cyswllt ar y llythyr –

  • Rhif ffôn yr Adain Fudd-daliadau yw 01492 576491.
  • Rhif ffôn yr Adain Treth y Cyngor Lleol yw 01492 576607. 

 

Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu i -

  • Banciau bwyd sy’n gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Conwy
  • Taliad atodol gan y Gronfa Taliadau Dewisol Tai, sy’n cynorthwyo gyda diffyg Costau
  • Tai i’r rhai sy’n cael Budd-dal Tai / Credyd Cynhwysol / Cost Tai lle bo’n briodol. 
  • Bwyd i Bobl Ifanc yn nigwyddiadau Haf o Hwyl / Chwarae
  • Bwyd i Bobl Ifanc mewn Clybiau Ieuenctid
  • Canolbwyntiau Cynnes mewn Llyfrgelloedd, diodydd/byrbrydau/gweithgareddau
end content