Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Plant ifanc (ôl-16) ag anghenion dysgu ychwanegol

Plant ifanc (ôl-16) ag anghenion dysgu ychwanegol


Summary (optional)
start content

Cefnogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau am anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’u cynllun datblygu unigol (CDU)

Bydd cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol eich ysgol neu coleg yn darparu gwybodaeth am sut mae penderfyniadau am anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwneud. Gallant egluro’r CDU, pwy fydd yn ei gynnal, a’ch hawliau gan gynnwys eich hawl i ganiatáu neu wrthwynebu penderfyniadau ADY a’ch CDU. Mewn rhai achosion gall awdurdod lleol, fel Conwy, fod yn rhan o’r trafodaethau hyn, a bydd gennych unigolyn a enwyd i gysylltu â nhw.

Bydd eich unigolyn a enwyd yn rhoi gwybodaeth a helpu i sicrhau eich bod yn gallu deall canlyniad posib penderfyniadau er mwyn i chi wneud penderfyniad deallus am eich ADY a CDU.

Byddant yn gofyn i chi:

  • beth ydych yn ei feddwl am eich CDU
  • ydych chi’n cytuno gyda’r cynllun
  • ydych chi’n rhoi caniatâd i weithredu’r cynllun
  • gyda phwy ydych yn hapus i ni rannu eich gwybodaeth â nhw

Os nad yw’r unigolyn ifanc yn caniatáu i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn ag ADY neu baratoi neu gynnal cynllun rhaid i’r ysgol neu’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a ofynnir amdani gan ADY yr unigolyn ifanc. Mae hyn yn golygu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen i helpu’r unigolyn ifanc i ddysgu.

Rhaid i bawb sy’n gysylltiedig wneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r unigolyn ifanc wneud eu penderfyniad eu hunain.

Pan nad yw’r unigolyn ifanc yn gallu gwneud penderfyniadau am eu cynllun datblygu unigol, gall rhieni weithredu fel eu “cynrychiolydd”. Pan mai dyma’r achos mae’n bwysig cynnwys yr unigolyn ifanc cymaint â phosib mewn penderfyniadau a wneir, gan ystyried eu teimladau a’u dymuniadau cyn gwneud penderfyniad ar eu rhan.

Os yw’r unigolyn ifanc neu eu cynrychiolydd angen cefnogaeth i fynegi eu barn a’u dymuniadau ac arfer eu hawliau, gallant ofyn i eiriolwr helpu. Eiriolwr yw rhywun sy’n siarad ar ran rhywun arall. Gallant wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl a sut maen nhw’n teimlo.

Mae gan awdurdodau lleol wasanaethau partneriaeth sy’n rhoi cefnogaeth annibynnol i deuluoedd a gall unrhyw unigolyn ifanc gael cefnogaeth eiriolwr annibynnol i’w cefnogi trwy gydol y broses bontio. Dysgwch fwy am y rhain ar wefan SNAP Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am hawl pobl ifanc i roi caniatâd ewch i wefan Mencap (dolen allanol, ar gael yn Saesneg yn unig).

Os ydych yn poeni eich bod angen mwy o gymorth na beth rydych yn ei gael yn yr ysgol neu’r coleg, siaradwch gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol neu dîm ADY y coleg.

Beth sy’n digwydd ar ôl gadael yr ysgol?

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn dilyn cwrs coleg neu raglen hyfforddiant addysg bellach (AB) pan fyddant yn gadael yr ysgol. Bydd hyn yn parhau i ddigwydd a byddant yn cael cefnogaeth i bontio’n llwyddiannus. Ble bynnag fo’n bosib, dylai pobl ifanc allu mynd i’w haddysg a’u hyfforddiant ôl-16 yn lleol.

Mae colegau AB yng Nghymru yn darparu ystod eang o gyrsiau i fodloni anghenion dysgwyr. Fel arfer bydd anghenion pobl ifanc sydd ag ADY wrth gychwyn yn y coleg yn cael eu bodloni trwy ddarpariaeth sydd ar gael i bob dysgwr. Gelwir hyn yn ddarpariaeth gyffredinol. Ni fydd dysgwyr sy’n gallu cyflawni eu canlyniadau addysg neu hyfforddiant a ddymunir trwy ddarpariaeth gyffredinol, angen CDU.

Bydd dysgwyr a fydd angen DDdY yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg gyda’u CDU a bydd y coleg yn gweithio gyda bob unigolyn ifanc i sicrhau bod y gefnogaeth yn briodol iddynt o fewn eu cwrs a ddewiswyd. Mae colegau yn darparu ystod eang o gyrsiau i fodloni anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr. I gael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth coleg, ewch i wefan Braenaru ADY.

Mewn nifer fechan o achosion, pan fo anghenion dysgwr yn arbennig o gymhleth, efallai na fydd ysgol a gynhelir neu goleg addysg bellach yn gallu bodloni’r anghenion hynny. Yn yr achosion hyn, bydd yr awdurdod lleol yn chwilio am leoliad priodol i helpu’r unigolyn ifanc i gyflawni eu canlyniadau a ddymunir. Yn yr achosion hyn, bydd yr anghenion wedi eu canfod yn gynnar (o flwyddyn 9 ymlaen) a bydd y broses wedi ei thrafod gyda swyddog awdurdod lleol yn adolygiadau CDU y plentyn.

end content