start content

 

 

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwr Ffi'r cwrs
02/11/26 - Rhan 1 a 16/11/26 - Rhan 2 (Rhaid mynychu’r ddau ddyddiad) 6pm tan 7:30pm                         Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno                           Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol                          Am ddim               


Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rhai hynny sy’n dymuno canfod ffyrdd mwy cadarnhaol o reoli ymddygiad plant yn gymdeithasol ac anghymdeithasol.

Cynnwys y cwrs

Rhan 1:

  • Trosolwg byr ar seicoleg yn gyffredinol
  • Trosolwg byr ar seicoleg ymddygiadol

Rhan 2

  • Cyfle i edrych ar sefyllfaoedd presennol i ymarfer asesu’r ymddygiad a defnyddio Strategaethau perthnasol
  • Trafod astudiaethau achos.


Ar ddiwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio’r prif ddulliau y gellir dysgu ymddygiad i blant
  • Disgrifio’r dulliau y gellir annog ymddygiad da
  • Disgrifio dull y gellir rheoli ac atal ymddygiad annerbyniol
end content