Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r Cwrs |
25/03/2020 WEDI EU GANSLO |
6.30 - 8.30pm |
Canolfan Lôn Hen Ysgol, Church Walks, Llandudno |
Hyfforddwr Makaton Achrededig |
Am ddim |
Bydd y Sesiwn Blasu Makaton hwn yn gyflwyniad byr anffurfiol, rhyngweithiol a llawn gwybodaeth i system gyfathrebu Makaton.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o arwyddion na symbolau Makaton.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Dealltwriaeth sylfaenol o Gyfathrebu trwy Makaton
- Trosolwg byr o sut a pham yr ydym yn defnyddio arwyddion a symbolau Makaton.
- Dealltwriaeth sylfaenol o rôl Makaton mewn datblygiad cyfathrebu
- Dysgu arwyddion a symbolau Makaton sydd yn addas ar gyfer cyfarwyddiadau a sgyrsiau dyddiol.
Erbyn diwedd y sesiwn bydd gan y cyfranogwyr:
- Ddealltwriaeth sylfaenol o beth yw Makaton, yn ogystal â sut a pham ein bod yn defnyddio Makaton.
- 30 arwydd a symbolau y gallent eu defnyddio'n syth â phlant, aelodau teulu neu bobl y maent yn gweithio â hwy.
- Tystysgrif bresenoldeb a thaflenni o arwyddion a symbolau a ddysgwyd.