Manylion y Cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r Cwrs |
Sesiwn 1 - 30/11/20
Sesiwn 2 - 07/12/20
|
7.00pm - 8.30pm |
Hyfforddiant o bell drosy we drwy Zoom |
Clybiau Plant Cymru |
Am ddim |
Mae'r Cwrs yn cwmpasu'r canlynol:
Mae Chwarae a Dysgu i Dyfu - Gweithdy Ffrindiau Iach yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar sefydlu system gyfeillio mewn lleoliadau unigol. Gan ganiatáu i’r plant hŷn arwain gweithgareddau gyda’r plant iau, gall y gweithdy hwn helpu plant i gynyddu eu lefelau gweithgaredd corfforol a maeth drwy amrywiaeth eang o weithgareddau hwyliog ac iach dan arweiniad cyfoedion.
Dyma weithgareddau dan arweiniad Gweithiwyr Chwarae i gynyddu ymwybyddiaeth o risgiau ysmygu ac alcohol, sy’n cysylltu â Mentrau Llywodraeth Cymru.
Cyflwyniad i hyfforddi cyfeillion
- Y syniadau sylfaenol y tu ôl i’r defnydd o system gyfeillio.
- Rôl bydi: datblygu sgiliau arweinyddiaeth a dinasyddiaeth.
- Hyrwyddo perthnasau cadarnhaol.
- Datrys gwrthdaro.
- Cynllunio camau gweithredu.
- Cyflwyniad i’r cardiau gweithgaredd corfforol.
- Cyflwyniad i’r cardiau gweithgaredd maeth.
- Technegau gwerthuso ymarferol.
- Asesiad o’r cynnydd a wnaed.
Mae’r cwrs yn cynnwys pecyn sy’n llawn o 50 cerdyn gweithgaredd dwyieithog, 10 cerdyn canlyniad, 9 gweithgaredd gwerthuso hwyliog, ynghyd â cherdyn cyfarwyddyd i’w ddefnyddio yn y wahanol leoliadau. Cyfanswm o 70 cerdyn mewn ffolder ddeniadol. Hefyd, gall y cyfeillion hyfforddedig gael y cyfle i gwblhau Gwobr Arweinwyr Ifanc achrededig gan Ymddiriedolaeth Chwaraeon Prydain.