Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r Cwrs |
09/03/20 & 16/03/20 CANCELLED |
6.15-8.15pm |
Canolfan Lôn Hen Ysgol, Church Walks, Llandudno |
Deborah Roberts, BCUHB |
Am ddim |
08/06/20 & 15/06/20 |
6.15-8.15pm |
Canolfan Lôn Hen Ysgol, Church Walks, Llandudno |
Deborah Roberts, BCUHB |
Am ddim |
Nodau ac amcanion y cwrs:
- Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rhai hynny sydd angen darganfod ffyrdd mwy positif o reoli ymddygiad plant yn gymdeithasol ac anghymdeithasol
Cynnwys y Cwrs
- Trosolwg byr ar seicoleg yn gyffredinol
- Trosolwg byr ar seicoleg ymddygiadol
- Edrych ar yr “8 offeryn rheolaeth allweddol” o reolaeth ymddygiad yn cynnwys cymuned ddisgrifiadol, canmoliaeth,cyfarwyddiadau da a gwobrwyo
Ar ddiwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Disgrifio dau brif ddull y gellir dysgu ymddygiad i blant
- Disgrifio o leiaf tri dull y gellir annog ymddygiad da
- Disgrifio o leiaf un dull y gellir rheoli ac atal ymddygiad annerbyniol
Beth sydd i’w ddisgwyl gennyf?
- Pan fyddwch yn dod i sesiynau hyfforddi, rydych yn eich cynrychioli eich hun, eich lleoliad a'r sector gofal plant. Ni fydd y bartneriaeth yn goddef ymddygiad annerbyniol o unrhyw fath. Rydym yn disgwyl i gynrychiolwyr ddangos parch at eu tiwtoriaid a’r rhai eraill sy’n bresennol drwy sicrhau nad ydynt yn tarfu nac yn ymddwyn yn amhriodol yn ystod sesiynau hyfforddi.
- Bydd cwynion a dderbynnir yn erbyn unigolion neu leoliadau yn arwain at eich tynnu allan o gyrsiau yn y dyfodol.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn archebu lle ar gwrs ond yn methu mynd iddo?
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol mae'n rhaid i chi roi 7 diwrnod o rybudd trwy e-bost. Os na fyddwch yn dilyn y gweithdrefnau canslo cywir neu os na fyddwch yn mynd i sesiynau, byddwn yn codi'r ffioedd canlynol:
- Cyrsiau am ddim - £20 o ffi ganslo.
- Cyrsiau â chymhorthdal - £20 o ffi ganslo ac ni fydd ffi'r cwrs yn cael ei ad-dalu.
Os oes gennych unrhyw broblemau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.