Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cerbydau wedi eu Gadael


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff

Cerbydau wedi eu Gadael

Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Wasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff – Cerbydau wedi eu gadael.

Mae hyn yn cynnwys cerbydau yr amheuir iddynt fod wedi’u gadael yn cael eu hadrodd i'r Gwasanaeth Gwastraff, unwaith y cânt eu hadnabod fel cerbydau wedi'u gadael, cysylltir â'r DVLA i ofyn am fanylion y ceidwad cofrestredig.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’r prosesu’n hanfodol er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio â Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978; Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984; Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 (yn cynnwys Diwygiad Cymru 2005) a Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Rhif Cofrestru Cerbyd
  • Asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

  • DVLA – I gael prawf o berchnogaeth y cerbyd dan sylw er mwyn rhoi hysbysiad i symud y cerbyd.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

6 blynedd

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content