Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mannau Agored


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Digwyddiadau Bywyd Gwyllt/ Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad

Diweddarwyd Ddiwethaf: 24 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i Fannau Agored – Digwyddiadau Bywyd Gwyllt/Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau bywyd gwyllt fel teithiau cerdded ar gyfer aelodau’r cyhoedd a gwaith ymarferol ar warchodfeydd natur. Mae’r digwyddiadau a diwrnodau gwaith hyn yn gwella cynefinoedd a hyrwyddo/addysgu aelodau’r cyhoedd am fywyd gwyllt yn Sir Conwy.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer perfformio contract gyda’r ymgeisydd. Caiff gwybodaeth ei chasglu er mwyn i bob digwyddiad bywyd gwyllt a gwarchodfa natur gael eu cyfathrebu ac er mwyn i ymgeisydd dderbyn lle.

Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.   Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir  

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Amgylchiadau meddygol

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth.

Am ba hyd fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Caiff gwybodaeth ei chadw yn unol ag Amserlen Cadw yr awdurdod oni bai bod aelod yn gofyn i gael ei symud yn gynharach.

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content