Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cardiau Teithio Rhatach


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Gardiau Teithio Rhatach

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato fel ni) yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch (byddwn yn galw hyn yn wybodaeth bersonol neu’n ddata personol) pan fyddwch yn gwneud cais am gerdyn teithio rhatach, a bob tro y byddwch yn defnyddio’r cerdyn i deithio. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth fanwl am y canlynol:

  • Pryd a pham rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol;
  • Sut rydym yn ei defnyddio;
  • Yr amgylchiadau cyfyngedig pan fydd modd inni ei datgelu i eraill; a
  • Sut rydym yn ei chadw’n ddiogel.

Rydym wedi penodi swyddog diogelu data, sef yr unigolyn sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os dymunwch arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’n swyddog diogelu data.

Cyfeiriad post:
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
B
lwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Cyfeiriad e-bost: derek.oconnor@conwy.gov.uk


Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef awdurdod goruchwylio’r DU mewn perthynas â materion diogelu data (www.ico.org.uk) Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly a fyddech cystal â chysylltu â ni yn y lle cyntaf.

Sylwer: o fis Medi 2019, bydd y gwaith o weinyddu Cardiau Teithio Rhatach yn hefyd cael ei wneud ar sail Cymru gyfan gan Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sydd â chyfrifoldeb dros faterion trafnidiaeth yng Nghymru. Bydd system genedlaethol newydd yn ei gwneud yn bosibl i gyflwyno ceisiadau ar-lein. Bydd hysbysiad preifatrwydd ar gael ar www.tfw.wales/cy/datganiad-preifatrwydd-cerdyn-teithio o’r dyddiad hwnnw.

Y data a gasglwn amdanoch:

Os byddwch yn gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, byddwn yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn trosglwyddo’r data personol canlynol amdanoch:

  • Mae Data Adnabod yn cynnwys eich enw cyntaf a’ch enw(au) canol, yr enw a ffefrir gennych, eich cyfenw a’ch teitl. Hefyd byddwn yn casglu eich rhif Yswiriant Gwladol, eich dyddiad geni a gwybodaeth am unrhyw Gardiau Teithio Rhatach eraill yr ydych wedi eu cael yn y gorffennol (os bydd hynny’n briodol).
  • Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.
  • Mae Data Cerdyn yn cynnwys rhifau cofrestru’r Cerdyn Teithio Rhatach a manylion y teithiau a wnewch wrth ei ddefnyddio.
  • Mae Categorïau Arbennig o Ddata Personol yn cynnwys manylion am eich statws iechyd neu eich statws fel cyn-filwr os byddwch yn gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach i’r Anabl. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol neu aelodaeth undebau llafur. Nid ydym yn casglu gwybodaeth am euogfarnau na throseddau.
  • Mae Data Marchnata a Chyfathrebu yn cynnwys eich dewisiadau mewn perthynas â chael deunyddiau marchnata gennym ni a’n trydydd partïon a’ch dewisiadau o ran cyfathrebu.

Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu Data Cyfanredol fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben, yn cynnwys cynllunio trafnidiaeth a chyllidebu. Efallai y bydd Data Cyfanredol yn deillio o’ch data personol, ond ni chaiff ei ystyried fel data personol gan y gyfraith ac ni fydd yn datgelu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol pwy ydych chi.

Sut caiff eich data personol ei gasglu:

Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol o gasglu data gennych ac amdanoch, yn cynnwys y canlynol:

  • Rhyngweithiadau uniongyrchol. Efallai y byddwch yn rhoi eich Data Adnabod a’ch Data Cyswllt inni wrth lenwi ffurflenni cais neu drwy gysylltu â ni mewn modd arall. Mae hyn yn cynnwys data personol a roddwch pan fyddwch yn:
  • Technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd. Pan fyddwch yn defnyddio eich cerdyn teithio rhatach ar fws, bydd gweithredwr y bws yn casglu manylion eich cerdyn er mwyn i weithredwr y bws gael tâl am eich siwrnai.
  • cofrestru cais am Gerdyn Teithio Rhatach neu’n newid eich cais;
  • ffonio i ofyn cwestiynau; neu’n
  • rhoi rhywfaint o adborth inni.


Sut rydym yn defnyddio eich data personol:

Dim ond pan mae’r gyfraith yn caniatáu inni wneud hynny y byddwn yn defnyddio eich data personol. Isod, fe welwch dabl yn nodi’r ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio eich data personol, a’n sail gyfreithlon dros wneud hynny. Defnyddir y termau canlynol yn y tabl isod:

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol: Mae hyn yn golygu prosesu eich data personol pan mae’n angenrheidiol inni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol rydym yn ddarostyngedig iddi. Fel awdurdod trafnidiaeth, yn ôl Deddf Trafnidiaeth 2000 mae’n ofynnol inni roi Cardiau Teithio Rhatach i unigolion y mae ganddynt hawl i’w cael, ac felly mae’r rhan fwyaf o’r gwaith prosesu’n cael ei wneud ar gyfer bodloni’r rhwymedigaeth gyfreithiol hon.
  • Cyflawni tasg gyhoeddus: Mae hyn yn golygu y gall fod angen inni brosesu eich data personol er mwyn mynd i’r afael â thasgau eraill er budd y cyhoedd. Er enghraifft, sicrhau bod y cynllun cardiau rhatach yn cael ei weinyddu’n effeithlon.

GweithgareddMathau o ddataSail gyfreithlon

Prosesu eich cais am Gerdyn Teithio Rhatach

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

(c) Categorïau arbennig o ddata personol

Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol i roi cardiau i’r rhai sy’n gymwys i’w cael

Cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais er mwyn ateb unrhyw ymholiadau

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

 

Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol i roi cardiau i’r rhai sy’n gymwys i’w cael

Cysylltu â chi ynglŷn â’ch Cerdyn Teithio Rrhatach neu ynglŷn â’ch cais

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

 

Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus

Cysylltu â chi ynglŷn â’r defnydd a wneir o’ch Cerdyn Teithio Rhatach

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus o weinyddu’r cynllun Cerdyn Teithio Rhatach

Rhannu data gyda Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru er mwyn iddynt allu gweinyddu’r cynllun Cardiau Teithio Rhatach, fel y gellir ad-dalu gweithredwyr ac amddiffyn rhag twyll

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

(c) Data Cerdyn

(a) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol i roi cardiau i’r rhai sy’n gymwys i’w cael

(b) Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus o weinyddu’r cynllun Cerdyn Teithio Rhatach

Cyfathrebu newidiadau i delerau ac amodau’r cynllun teithio rhatach

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus o weinyddu’r cynllun Cerdyn Teithio Rhatach

Cadarnhau pwy ydych chi a chynnal gwiriadau i gadarnhau eich bod yn dal i fod yn gymwys i deithio’n rhatach

(a) Adnabod

(b) Cyswllt

(a) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol i roi cardiau i’r rhai sy’n gymwys i’w cael

 

(b) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol i atal twyll a chamddefnydd o’r cynllun


Byddwn hefyd yn defnyddio'ch data personol i anfon cyfathrebiadau marchnata atoch, os ydych yn cydsynio i ni wneud hynny. dim ond lle rydych yn cytuno i'w dderbyn y byddwn yn anfon eich marchnata, a gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.

Datgelu eich data personol:

Fel y nodir yn y tabl uchod, byddwn yn rhannu eich data personol gyda Awrdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, a byddant yn defnyddio’r data hwn i reoli cronfa ddata’r Cardiau Teithio Rhatach a gweinyddu’r cynllun. Mae hyn yn cynnwys cynnal gwiriadau i wneud yn siŵr fod yr holl ddata’n gywir ac yn gyfredol.

Ymhellach, efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda’r canlynol:

  • Darparwyr gwasanaethau sy’n gweithredu fel prosesyddion inni, ac sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan
  • Gweithredwyr bysiau a fydd yn cael ac yn prosesu rhif eich cerdyn pan fyddwch yn defnyddio eich cerdyn teithio rhatach ar fws, fel y gallant gael ad-daliad
  • Cynghorwyr proffesiynol, yn cynnwys cyfreithwyr, archwilwyr ac yswirwyr, a fydd yn darparu gwasanaethau ymgynghori, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu inni
  • Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill yn y DU sy’n ei gwneud yn ofynnol inni adrodd ar weithgareddau prosesu mewn amgylchiadau arbennig.

Cadw eich data’n ddiogel:

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn modd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Ymhellach, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i gyflogeion, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon a chanddynt angen busnes i’w gael. Dim ond yn ôl ein cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol, ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw dor-rheol posibl yn ymwneud â data personol, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw rheoleiddiwr perthnasol ynghylch y tor-rheol pan fydd y gyfraith yn mynnu y dylem wneud hynny.

Nid ydym fel arfer yn anfon unrhyw ddata personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich data personol:

Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion sydd wrth wraidd casglu eich data personol y byddwn yn ei gadw, yn cynnwys y dibenion o fodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed yn sgil defnyddio neu ddatgelu eich data personol mewn modd anawdurdodedig, y dibenion dros brosesu eich data personol a pha un a allwn gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill ai peidio, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Mewn rhai amgylchiadau gallwch ofyn inni ddileu eich data: gweler ‘Cais i ddileu’ isod i gael mwy o wybodaeth.

Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn yn tynnu manylion adnabod o’ch data personol (fel na ellir ei gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ddibenion ystadegol. Os felly, efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb roi rhybudd pellach i chi.

Eich hawliau cyfreithiol:

Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawliau dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i wneud y canlynol:

  • Gwneud cais am fynediad at eich data personol (cyfeirir at hyn yn gyffredin fel “cais am fynediad at ddata gan y testun”). Bydd hyn yn eich galluogi i gael copi o’r data personol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.
  • Gwneud cais i gywiro data personol sydd gennym amdanoch. Bydd hyn yn eich galluogi i sicrhau bod unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei gywiro, er efallai y bydd angen inni wirio cywirdeb y data newydd a roddwch inni.
  • Gwneud cais i ddileu eich data personol. Bydd hyn yn eich galluogi i ofyn inni ddileu neu gael gwared â data personol pan na cheir unrhyw reswm dros barhau i’w brosesu. Hefyd, mae gennych hawl i ofyn inni ddileu neu gael gwared â’ch data personol pan fyddwch wedi arfer eich hawl yn llwyddiannus i wrthwynebu’r arfer o’i brosesu (gweler isod), pan fyddwn efallai wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu pan mae’n ofynnol inni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Ond sylwer: mae’n bosibl na fydd modd inni bob amser gydymffurfio â’ch cais i ddileu gwybodaeth oherwydd rhesymau cyfreithiol; byddwn yn eich hysbysu ynghylch hyn, os yw’n berthnasol, pan gyflwynwch eich cais.
  • Gwrthwynebu’r arfer o brosesu eich data personol pan fyddwn yn dibynnu ar gyflawni ein tasg gyhoeddus a phan fydd rhywbeth ynglŷn â’ch sefyllfa arbennig yn gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu’r arfer o brosesu’r data ar y sail hon, gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos bod gennym sail ddilys a grymus dros brosesu eich gwybodaeth, sy’n drech na’ch hawliau a’ch rhyddid.
  • Gwneud cais i gyfyngu ar brosesu eich data personol. Bydd hyn yn eich galluogi i ofyn inni roi’r gorau dros dro i brosesu eich data personol yn y senarios canlynol: (a) os ydych eisiau inni gadarnhau cywirdeb y data; (b) pan mae’r defnydd a wnawn o’r data’n anghyfreithlon, ond pan nad ydych eisiau inni ei ddileu; (c) pan ydych angen inni gadw’r data hyd yn oed os nad ydym ei angen mwyach, gan eich bod angen sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (ch) pan ydych wedi gwrthwynebu’r defnydd a wnawn o’ch data, ond pan mae angen inni wirio a oes gennym sail ddilys hollbwysig dros ei ddefnyddio.

Os dymunwch arfer unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â ni.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol nac i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n eithafol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’ch cais mewn amgylchiadau o’r fath.

Efallai y bydd angen inni ofyn i chi am wybodaeth benodol er mwyn ein helpu i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu ar gyfer arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn sydd â’r bwriad o sicrhau na chaiff data personol ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddo’r hawl i’w gael. Efallai hefyd y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth yn ymwneud â’ch cais i gyflymu ein hymateb.

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. O dro i dro, efallai y byddwn yn cymryd mwy na mis os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi cyflwyno nifer o geisiadau. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn eich hysbysu ac yn rhoi’r diweddaraf i chi.

end content