Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ceisiadau Angori yn yr Harbwr


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Ceisiadau Angori yn yr Harbwr

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i Gyfleusterau – ceisiadau Angori yn yr Harbwr.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â cheisiadau i angori yn Harbwr Conwy ac angorfeydd morglawdd Llandrillo yn Rhos.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu cyfleusterau angori yn Harbwr Conwy a morglawdd Llandrillo yn Rhos, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Harbyrau 1964.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll penodol neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion cyswllt

Mae prosesu’n hanfodol ar gyfer perfformio contract gyda gwrthrych y data ac mae’n hanfodol i ddiogelu buddion hanfodol gwrthrych y data. Hefyd, ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a roddir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

  • Marinâu Conwy a Deganwy - Sicrhau bod yr harbwr yn cael ei reoli'n ddiogel ar gyfer pob defnyddiwr yn unol â darpariaethau Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau - Sicrhau bod yr harbwr yn cael ei reoli'n ddiogel ar gyfer pob defnyddiwr yn unol â darpariaethau Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

6 blynedd ar ôl y dyddiad y crëwyd y cofnod

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content