Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Gyrwyr Hŷn


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Rheoli Traffig a Rhwydweithiau

Cynllun Gyrwyr Hŷn

Dyddiad diweddaru diwethaf: 10 Hydref 2019

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i Reoli Traffig a Rhwydweithiau – Cynllun Gyrwyr Hŷn. Mae hyn yn cynnwys gyrwyr dros 65 oed sy'n mynd ar gwrs Gyrwyr Hŷn.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu cyrsiau Gyrwyr Hŷn a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i leihau gwrthdrawiadau yn Sir Conwy, gyda rhwymedigaeth gyfreithiol benodol i Adran 39(3) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll penodol neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau i gyflawni contract neu dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt

Mae angen prosesu'r wybodaeth er mwyn cyflawni contract gyda gwrthrych y data ac mae'n hanfodol i warchod eu buddiannau nhw ynghyd â chyflawni tasg a wneir er lles y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i'r rheolwr (CBSC).

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

  • Hyfforddwyr Gyrru - Rhennir gwybodaeth gyda’r 2 hyfforddwr gyrru sydd wedi cofrestru gyda’r awdurdod i ddarparu’r asesiadau i yrwyr.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Y flwyddyn gyfredol a 6 mlynedd.

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content