Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ceisiadau am wasanaethau claddu ac amlosgi


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Dyddiad diweddaru diwethaf: 10 Hydref 2019

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys ar gyfer Cyfleusterau – ceisiadau am wasanaethau claddu ac amlosgi.

Mae hyn yn cynnwys claddedigaethau a gwasanaethau coffa, cerrig beddi, perchnogaeth beddi a throsglwyddo perchnogaeth beddi.

Pwrpas ar gyfer prosesu a'r sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu’r amwynderau a enwir uchod a sicrhau cydymffurfiad mewn perthynas â Deddf Iechyd Cyhoeddus 1879, Deddf Claddedigaethau 1900, Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977 a Deddf Rheoliadau Amlosgi 2008.

 Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll penodol neu fel arall, yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, i gyflawni contract neu dasg er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion cyswllt

Mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract gyda gwrthrych y data ac mae’n angenrheidiol i ddiogelu buddion hanfodol gwrthrych y data. Hefyd, ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gyda phwy y byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth

  • Y trefnwr angladdau – Gall y trefnwr angladdau ofyn am wybodaeth ar ran teulu, gan y gallai fod angen newid/trosglwyddo perchnogaeth bedd.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ar ffurf electronig, a bydd pob copi papur yn cael ei gadw am hyd at 15-20 mlynedd.

Eich hawliau gwybodaeth

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych chi gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content