Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cais am finiau ychwanegol


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Cais am finiau ychwanegol

Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Wasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff – cais am finiau ychwanegol a chynwysyddion ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd mwy sydd angen biniau ychwanegol yn seiliedig ar feini prawf cymeradwy.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Bydd darpariaeth gwasanaeth o finiau ychwanegol, lle mae meini prawf yn nodi 6 neu fwy o unigolion parhaol yn meddiannu aelwyd, yn gallu bod â’r hawl i fin sbwriel ar olwynion ychwanegol, ar yr amod eu bod hefyd yn ailgylchu ac nid yn rhoi deunydd y gellir ei ailgylchu yn eu bin sbwriel ar olwynion.

Mae’r meini prawf cymhwyso yn cael eu nodi drwy ddarparu’r wybodaeth ofynnol i brofi meddiannaeth yn yr aelwyd, fel arall, ni fyddwn yn gallu rhoi’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Prawf o le rydych yn byw
  • Tystysgrifau Geni, Credydau Treth Teulu neu Gerdyn Meddygol

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

6 blynedd o’r dyddiad y daeth y ddarpariaeth gwasanaeth i ben, neu 2 flynedd ers dyddiad marwolaeth, pa un bynnag sydd gynharaf.

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd  i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content