Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hysbysiad Preifatrwydd: Tocynnau bysiau i aelodau o'r cyhoedd


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Cyllid a Gwasanaethau Cwsmeriaid


Tocynnau bysiau i aelodau o’r cyhoedd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i Wasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid – Tocynnau Bysiau.

Mae'n cynnwys tystiolaeth o'r meini prawf sy’n ofynnol ar gyfer tocynnau bysiau i bobl dros 60 oed a phobl anabl.

Pwrpas ar gyfer prosesu a'r sail gyfreithiol

Mae angen prosesu i gyflawni contract gyda gwrthrych y data. Mae’r meini prawf cymhwyso yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a, lle bo hynny'n bosib', fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll penodol neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, er mwyn cyflawni contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.  Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Perthynas agosaf, enw a manylion cyswllt
  • Gwybodaeth perthnasau
  • Gwybodaeth iechyd (corfforol/meddyliol)
  •  Gwybodaeth atgyfeirio/asesu
  • Gwybodaeth galluedd meddyliol
  • Asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

  • Llywodraeth Cymru – Mae’r gronfa ddata a ddefnyddir i ddal yr holl wybodaeth bersonol ynglŷn â Thocynnau Bysiau yn perthyn i Lywodraeth Cymru
  • Asiantaethau (h.y. Lluoedd Arfog, Cartrefi Gofal) – Rhennir gwybodaeth er mwyn dilysu gwybodaeth gan breswylwyr a fydd yn cefnogi'r cais am Docyn Bysiau.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

6 blynedd o'r dyddiad y daeth darpariaeth gwasanaeth i ben neu 2 flynedd ar ôl dyddiad marwolaeth, p'un bynnag sydd gyntaf. 

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content