Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwastraff Masnachol


Summary (optional)
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff

Gwastraff Masnachol

Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Wasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff – Gwastraff Masnachol. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau trosglwyddo gwastraff rheoledig ar gyfer busnesau bach sy’n seiliedig ar feini prawf cymeradwy.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Darpariaeth gwasanaeth o wastraff masnachol a chontractau gwasanaeth casglu ailgylchu. Mae prosesu’n hanfodol er mwyn cyflawni’r contract darpariaeth gwasanaeth ar gais gwrthrych y data.

Mae’r meini prawf cymhwysedd yn cael eu nodi gan wrthrych y data sy’n gwneud cytundeb cytundebol gyda’r cyngor i roi gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu masnachol.  Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Enw'r Busnes

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Nodiadau trosglwyddo gwastraff – 2 flynedd os nad yw’n beryglus;

Nodiadau trosglwyddo gwastraff – 3 blynedd os yw’n beryglus;

Contract – 6 blynedd ar ôl diwedd y contract.

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd  i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content