Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhandiroedd


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Gyllid a Gwasanaethau Cwsmeriaid/Cyfleusterau - Rhandiroedd

Mae hyn yn cynnwys dal gwybodaeth am restr aros rhandiroedd.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae prosesu’n hanfodol i ddarparu gwasanaeth. Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll penodol neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol.  

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Perthynas agosaf, enw a manylion cyswllt

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Ymgeiswyr rhandiroedd – hyd nes y byddant yn dod yn denantiaid neu’n gofyn i gael tynnu eu henwau oddi ar y rhestr aros;

Tenantiaid rhandiroedd – 6 blynedd ar ôl i’r denantiaeth ddod i ben...

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd  i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content