Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhybuddion Talu Cosb


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Rhybuddion Talu Cosb

Diweddarwyd Diwethaf: 10 Hydref 2019

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Reoli Traffig a Rhwydweithiau – Rhybudd Talu Cosb.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnal camau gorfodi yn erbyn torri amodau parcio, fel y manylwyd yn y Rhybudd Talu Cosb. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gweinyddu’r tâl am barcio
  • Delio ag apeliadau a sylwadau

Mae prosesu’n hanfodol i gydymffurfio â deddfwriaeth traffig ffyrdd - Deddf Rheoli Traffig 2004.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i sicrhau y bydd arian dyledus yn cael ei adennill a sicrhau cydymffurfiad o ran archwiliadau DVSA a gynhelir yn yr awdurdod, ynghylch ceidwad cofrestredig eu data.  

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion dyswllt
  • Dyddiad geni
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Manylion ariannol o’r taliad a wnaed
  • Asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig

Y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yw’r sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth bersonol, o dan yr Erthyglau canlynol:

  • 6.1(c) Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

  • DVSA – I gadarnhau manylion Ceidwad Cofrestredig y cerbyd
  • Asiantaethau Gorfodi – i adennill dyled yn ymwneud â Rhybuddion Talu Cosb

Mae gennym drefniadau rhannu data penodol yn eu lle gydag asiantaethau lleol, ac weithiau mae'r gyfraith yn mynnu ein bod yn gorfod trosglwyddo eich manylion ymlaen at drydydd parti, er enghraifft, i atal troseddau.

Ni fyddwn yn ei drosglwyddo i unrhyw barti arall oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny gan y gyfraith neu mewn pob amgylchiad rhesymol, bod datgelu’n deg ac yn cael ei warantu at y diben o brosesu, neu'n ddarostyngedig i eithriad diogelu data cyfreithiol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Y flwyddyn gyfredol a 6 mlynedd

Nodwch: bydd pob cyfnod cadw a nodir yn destun unrhyw ddaliad cyfreithiol a osodir o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a all ymwneud â’r wybodaeth a diystyru’r cam cadw safonol.

 

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

 

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

 

Mynediad i’ch gwybodaeth – gwnewch gais ar-lein www.conwy.gov.uk/diogeludata neu cysylltwch â ni yn affch@conwy.gov.uk

 Cywiro eich gwybodaeth – cysylltwch ag affch@conwy.gov.uk

 Dileu eich gwybodaeth – cysylltwch ag affch@conwy.gov.uk

 Cyfyngu ar brosesu – cysylltwch ag affch@conwy.gov.uk

 Gwrthwynebu prosesu – Ni ellir gwrthwynebu Prosesu Rhybuddion Talu Cosb.

end content