Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymhorthwyr teithwyr o'r cartref i'r ysgol


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cludiant

Cymhorthwyr teithwyr o’r cartref i’r ysgol

Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn ymwneud â Gwasanaethau Cludiant - Cymhorthwyr teithwyr o’r cartref i’r ysgol.

Mae hyn yn cynnwys darparu cymhorthwyr teithwyr i ddisgyblion sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cludiant o’r cartref i’r ysgol.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu cymhorthwyr teithwyr i ddisgyblion ar gludiant o’r cartref i’r ysgol, ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data 2018.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Dyddiad geni

Mae prosesu’n angenrheidiol i berfformio contract gyda gwrthrych y data.

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Y flwyddyn gyfredol a 6 blynedd

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd  i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content