Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ceisiadau Casgliadau â Chymorth


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff

Ceisiadau Casgliadau â Chymorth

Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Wasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid/Gwastraff - Ceisiadau casglu â chymorth.

Lle nad yw deiliad y tŷ yn gallu cyflwyno eu bin ar olwynion, bocsys ailgylchu neu fin gwastraff bwyd bach wrth ymyl palmant, oherwydd breguster neu anallu, ac ar yr amod nad oes unrhyw unigolyn arall nad ydynt yn anabl sy’n byw, neu'n gweithio yn yr eiddo, neu unrhyw unigolyn arall mewn sefyllfa i gynorthwyo i symud y cynwysyddion gwastraff yn yr eiddo, gall deiliad y tŷ wneud cais ffurfiol i'r Cyngor am drefniant gwasanaeth Casglu â Chymorth.

Bydd y Cyngor yn holi deiliad y tŷ i gadarnhau nad ydynt yn gallu symud eu cynwysyddion gwastraff i'w/o'u man casglu arferol, a heb neb arall i'w cynorthwyo. Os bydd Casgliad â Chymorth yn cael cymeradwyaeth y Cyngor, yna bydd pwynt casglu addas ar yr eiddo’n cael ei gytuno gyda deiliad y tŷ, a bydd mynediad i’r criw casglu o 07.00 ar ddiwrnod y casgliad.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Gwybodaeth a all ymwneud ag oedran, anabledd, symudedd neu amgylchiadau meddiannu/cyfansoddiad aelwyd, er mwyn gofyn am gymorth ar gyfer casgliadau gwastraff.

Bydd Casgliadau â Chymorth yn cael eu cyfyngu i’r aelwydydd hynny sydd mewn gwir angen, yn dilyn proses ymgeisio i'r Cyngor. Efallai y bydd ymweliad cartref yn ofynnol i’r Cyngor i gymhwyso’r ymgeisydd. Bydd y Cyngor yn adolygu’r angen ar gyfer y gwasanaeth hwn gan ddeiliad y tŷ bob blwyddyn. Os bydd amgylchiadau’r deiliad tŷ yn newid, yna rhaid i’r preswylydd roi gwybod i’r Cyngor.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Amgylchiadau meddygol

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

6 blynedd o’r dyddiad y daeth y ddarpariaeth gwasanaeth i ben, neu 2 flynedd ers dyddiad marwolaeth, pa un bynnag sydd gynharaf.

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

end content