Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd: Ymgynghoriad ynghylch y Polisi Addasiadau Drafft 2023

Hysbysiad Preifatrwydd: Ymgynghoriad ynghylch y Polisi Addasiadau Drafft 2023


Summary (optional)
Mae Erthygl 13 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol darparu Hysbysiad Preifatrwydd i unigolion i’w hysbysu o’r wybodaeth isod mewn perthynas â phrosesu eu data personol.
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Gwasanaethau Rheoleiddio a Thai.

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol yw:

Rydym yn ymgynghori ar Bolisi Addasiadau drafft newydd a hoffem gael eich barn arno. O dan ddeddfwriaeth, mae angen i Awdurdodau Lleol gyhoeddi polisïau sy’n nodi’r math o gymorth a ddarparant i berchnogion tai a thenantiaid yn eu hardal, ac mae angen ymgynghoriad i sicrhau fod y polisi yn briodol.

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Amherthnasol - ni fyddwn yn gofyn i ymatebwyr ddarparu unrhyw ddata personol.

D.S. Ond byddwn yn gofyn os bydd y polisi yn effeithio arnynt (e.e. oherwydd eu bod nhw neu rywun yn eu cartref angen neu’n debygol o fod angen gwaith addasu). 

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Amherthnasol - ni fyddwn yn gofyn i ymatebwyr ddarparu unrhyw ddata personol.

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):

Mae’r ymgynghoriad ar agor i bawb ond mae gennym hefyd ddiddordeb ym marn pobl sy’n rhan o grwpiau nodweddion gwarchodedig sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y polisi. Y rheswm dros gasglu’r wybodaeth hon yw sicrhau ein bod wedi cael ystod eang o safbwyntiau, ac nad yw ein polisi yn cael effaith negyddol anghymesur ar unrhyw grŵp o bobl. 

Gan nad ydym yn gofyn am unrhyw ddata personol, ni fyddwn yn gallu defnyddio’r wybodaeth a ddarperir i adnabod unrhyw unigolyn/unigolion.

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data categori arbennig yw:

(gweler Data categori arbennig | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Beth yw’r sail gyfreithiol i’r prosesu?

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Erthygl 9(2)(h)  Gofal iechyd neu gymdeithasol (gyda sail mewn cyfraith).

Deddf Diogelu Data 2018, Atodlen 1, Rhan 1, Adran 2(2)(f):  Bydd y polisi o gymorth i reolwyr systemau neu wasanaethau gofal iechyd neu systemau neu wasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Sut / lle caiff eich data ei storio:

Bydd ymatebion i’r arolwg yn cael eu casglu ar lwyfan Gwasanaethau Llywodraeth.

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Blwyddyn gyfredol + 1.

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu:

Ni fydd unrhyw ddata a gasglwn yn cael ei rannu gydag unrhyw unigolyn neu adran arall o’r Cyngor.  Pan fydd y polisi wedi ei adolygu yng ngoleuni’r ymatebion a gawn, bydd yn mynd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle y Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys: 

  • · yr hawl i gael gwybod
  • · yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi
  • · yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch
  • · yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach
  • · yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol   .
  • · yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.

Yn yr amgylchiadau prin lle’r ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gellwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:

 Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):

Ni fyddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’ch ymateb i’r ymgynghoriad, oni bai eich bod yn gofyn yn benodol i ni wneud hynny.

Cyswllt gwasanaeth:

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r uchod cysylltwch â Jeremy Grant ar jeremy.grant@conwy.gov.uk , 01492 574235.

Uned Llywodraethu Gwybodaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â’r:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content