Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Galw Gofal (Care Connect)

Hysbysiad Preifatrwydd Galw Gofal (Care Connect)


Summary (optional)
start content

Yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi beth mae Galw Gofal yn ei wneud â data personol cwsmeriaid, ac unrhyw wybodaeth bersonol yn ymwneud â’r rhai sy’n cadw allweddi, teulu, ffrindiau a gofalwyr, swyddogion ar alwad neu gontractwyr.

Bydd y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei hadolygu’n rheolaidd i gynnwys unrhyw newidiadau pellach gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Pwy ydym ni?

Galw Gofal yw gwasanaeth monitro galwadau rhanbarthol Gogledd Cymru yn darparu cymorth dwyieithog 24/7 ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i warchod pobl ddiamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gweithle a darparu diogelwch ac annibyniaeth barhaus.

Mae’r gwasanaeth monitro galwadau yn hwyluso ymateb i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol (Teleofal a Teleiechyd), datrysiadau i Weithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain a Chardiau Gofal. Mae gennym hefyd wasanaeth cyswllt brys dros y ffôn y Tu Allan i Oriau i aelwydydd ar draws y rhanbarth.

Rydym yn gydweithrediad anstatudol awdurdod lleol a gynhelir o fewn fframwaith cyfreithiol. Mae'r cydweithio yn seiliedig ar y model awdurdod arweiniol, gyda dirprwyo swyddogaethau i gyflawni rhwymedigaethau'r cytundeb, darparu'r gwasanaeth, yn cynnwys gwasanaethau cymorth TG, Cyllid, AD, Cyfreithiol ac ati i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gan ddefnyddio pwerau yn Adran 101 Deddf Llywodraeth Leol 1972, Adran 2 Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac Adran 47 Deddf Gofal 1990. Rydym yn dilyn polisïau corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chynhelir pob contract yn enw Conwy.

Ar gyfer beth ydym yn defnyddio data?

Rydym yn derbyn data personol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth (gwrthrych y data) ar ffurf atgyfeiriadau gan gomisiynwyr y gwasanaeth (rheolyddion y data) ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y bydd arnom ei hangen yn rhesymol er mwyn darparu’r gwasanaeth monitro galwadau. Rheolyddion y data fydd yn cadw’r cydsyniad gan wrthrychau’r data. 

Gall gwrthrych y data roi data ychwanegol yn ystod cais am ymateb brys neu alwad y Tu Allan i Oriau, sy’n berthnasol i benderfynu ar yr ymateb priodol a blaenoriaethu’r alwad frys. 

Wrth dderbyn y wybodaeth, rydym yn dod yn brosesydd data.

Mae gennym gamera Teledu Cylch Caeëdig ym mynedfa canolfan monitro galwadau Bae Colwyn er mwyn rheoli mynediad i’r adeilad ac er mwyn diogelwch. Caiff arwyddion eu harddangos yn eich hysbysu fod Teledu Cylch Caeëdig yn weithredol gan roi manylion y sawl y dylech gysylltu â nhw am wybodaeth bellach amdanynt.

Ni fyddwn yn datgelu delweddau Teledu Cylch Caeëdig i drydydd parti dim ond at ddibenion diogelwch y cyhoedd ac atal neu ganfod trosedd.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chadw a beth sy’n digwydd gyda’r wybodaeth honno?

Rydym yn prosesu’r data personol at y dibenion canlynol yn unig, fel y cytunwyd wrth gyflenwi’r contract gwasanaeth â rheolydd y data:

  • I ddarparu’r gwasanaeth Teleofal, Teleiechyd neu Wasanaeth Monitro Galwadau y Tu Allan i Oriau.
  • Er mwyn uwchgyfeirio at yr ymatebwr, y contractwr, y gwasanaethau brys a/neu’r Swyddog ar Ddyletswydd
  • I adrodd am bob digwyddiad i’r Rheolydd Data
  • I asesu Ansawdd y Monitro Galwadau gan y Rheolydd Data a’r Prosesydd Data
  • I sicrhau gwelliant parhaus y gwasanaeth.

Mae’r data personol a gedwir yn cynnwys:

  • 1. I Ddynodi Rhanbarth: Rhoddir cyfeirnod unigryw ar yr offer Teleofal a osodir yng nghartref Gwrthrych y Data.
  • 2. I Adnabod y Rheolydd Data: Dyrennir cyfeirnod unigryw cronfa ddata Gofal Cymdeithasol ‘RAISE’ i Wrthrych y Data
  • 3. At ddibenion adnabod Gwrthrych y Data: Teitl, enw, cyfeiriad a rhif ffôn  
  • 4. I adnabod y Landlord: Rhif ffôn uniongyrchol y Comisiynydd y tu allan i oriau
  • 5. At ddibenion adnabod y tenant: Cyfeirnod yr eiddo, enw, cyfeiriad a rhif ffôn y tenant 
  • 6. At ddibenion Uwchgyfeirio: Enw a rhifau ffôn y contractwyr penodol, Swyddogion a Rheolwyr ar Ddyletswydd a roddir gan Reolydd y Data ac sy’n cael eu cynnwys yn y ‘Contract Cyflenwi Gwasanaethau’.
  • 7. At Ddibenion Trin Galwadau: yr uchod i gyd ac unrhyw wybodaeth a roddir e.e.
    • (1) Oedran Gwrthrych y data, cyflwr cronig neu ddiamddiffynnedd
    • (2) Disgrifiad neu lun o Wrthrych y Data (os oes ganddynt ddementia neu os ydynt yn dueddol o grwydro) 
    • (3) Enw, cyfeiriad, oedran, perthynas unrhyw un arall sy’n byw yng nghartref Gwrthrych y Data
    • (4) Rhifau sêff allweddi a lleoliad (os oes un)
    • (5) Enw, cyfeiriad a rhifau ffôn cyswllt y Meddyg Teulu neu ymarferwyr iechyd
    • (6) Enw, cyfeiriad a rhifau ffôn Cysylltiadau mewn Argyfwng sef perthynas agosaf, ffrindiau, perthnasau a gofalwyr a allai fod ag allwedd i gartref Gwrthrych y Data neu y gellir gofyn iddynt helpu mewn achos brys
    • (7) Manylion asiantaethau gofal cartref neu weithwyr cefnogi Gwrthrych y Data
    • (8) Hanes y galwadau rhwng Prosesydd y Data a Gwrthrych y Data
    • (9) Cofnodion digwyddiadau
  • 8. At Ddibenion Sicrhau Ansawdd a Hyfforddiant: 
    • a. Recordiadau llais o’r holl alwadau ffôn 
    • b. Gwybodaeth Bodlonrwydd Cwsmeriaid 
    • c. Unrhyw hanes o gwynion

Gyda phwy y rhennir eich gwybodaeth?

Wrth ddarparu’r gwasanaeth brys i chi, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:

  • rheolydd y data 
  • chi neu eich cynrychiolydd awdurdodedig
  • eich cysylltiadau penodol, sef eich perthynas agosaf, ffrindiau, perthnasau neu ofalwyr 
  • eich asiantaeth gofal cartref
  • contractwyr penodol rheolydd y data
  • eich ymarferwyr iechyd neu wasanaethau brys
  • cynrychiolwyr yr awdurdod lleol y mae’n bosibl y bydd angen cysylltu â nhw ynglŷn ag unrhyw bryder a godwyd am eich lles
  • trydydd partïon perthnasol pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith

Am ba hyd y byddwn yn cadw’r wybodaeth?

Bydd Gwasanaeth Addysg Awdurdod Lleol Conwy yn cadw ac yn dinistrio’r wybodaeth yn unol â’u hamserlenni cadw, gellir cael gafael ar y rhain drwy’r manylion cyswllt isod.

Eich hawliau chi dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Mae hawl gennych i:

  • Gael mynediad at y wybodaeth bersonol y mae’r ysgol a’r Awdurdod Lleol yn ei phrosesu amdanoch;
  • Gofyn i’r ysgolion neu Awdurdod Lleol gywiro unrhyw wallau yn y wybodaeth honno; 
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu ar sail eich sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau);
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • Cwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol diogelu data.

 

Am wybodaeth bellach am y wybodaeth a gedwir gan Galw Gofal Gwasanaeth Addysg Awdurdod Lleol Conwy a’i defnydd neu os ydych yn dymuno defnyddio eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Cyswllt ar gyfer Galw Gofal:

Rhianwen Jones – Rheolwr Strategol Rhanbarthol
Ffôn: 01492 577781
E-bost: Rhianwen.jones@conwy.gov.uk

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Llinell gymorth: 029 2067 8400 (Llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (Llinell gymorth y DU)
Gwefan: www.ico.org.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Hysbysiad Preifatrwydd Llawn

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content