Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Conwy Cynhaliol

Hysbysiad Preifatrwydd Conwy Cynhaliol


Summary (optional)
start content

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a dim ond i brosesu eich cais/ymholiad ac i ddarparu'r wybodaeth a'r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn i ni amdanyn nhw y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.  

Er mwyn i chi gael gwybodaeth ac/neu gymorth gan Conwy Cynhaliol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, byddwn yn cofnodi eich gwybodaeth bersonol.  Heb eich gwybodaeth bersonol mae’n bosib na fyddwn yn gallu darparu’r wybodaeth/gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.  

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yn y ffyrdd a ganlyn:

  • i’n helpu i ddelio â’ch ymholiad;
  • i’n helpu i brosesu cais am grant;
  • i’ch galluogi i gael gafael ar gynnyrch a gwasanaethau perthnasol, e.e. GRANTfinder; Cymorth i Fusnesau;
  • i gyfathrebu â chi;
  • i brosesu trafodion ariannol ar gyfer grantiau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â ni; ac
  • i’n galluogi i wella ansawdd ein gwasanaethau.

Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i adrannau eraill y Cyngor at ddibenion dilysu cais am grant neu ganfod cyfleoedd eraill i gael cyllid.

Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond:

  • pan fo’n ofynnol dan y gyfraith; neu
  • pan mae’n cael ei ganiatáu fel arall dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Nodwch:
‘Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cyflawni contract neu dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.   Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.’ 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 10 mlynedd wedi diwedd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (Ar hyn o bryd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2021).

Eich hawliau gwybodaeth

I gael manylion llawn am eich hawliau gwybodaeth, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn:  https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

Mae gennych hawl i

  • weld y data rydym yn ei gadw;
  • cywiro unrhyw anghywirdebau;
  • cyfyngu’r defnydd o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch os ydych wedi codi gwrthwynebiad, tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio; a  
  • gofyn i ni ddileu cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch chi, ar wahân i wybodaeth sy’n cefnogi ceisiadau am grant, cyn y cyfnod a nodir uchod.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni:

Conwy Cynhaliol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Glasdir
Plas yn Dre
Llanrwst
LL26 0DF

E-bost:  conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch gennym, mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2018

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content