Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd - Lle i Anadlu

Hysbysiad Preifatrwydd - Lle i Anadlu


Summary (optional)
start content

Ein Cyfrifoldebau

Pan fyddwch yn gwneud cais am Le i Anadlu drwy gynghorydd dyled cofrestredig Awdurdod Ymddygiad Ariannol, bydd eich manylion personol, gan gynnwys rhai meysydd o ddata personol sensitif, yn cael eu trosglwyddo o'r Gwasanaeth Ansolfedd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a fydd yn prosesu ac yn storio'r wybodaeth hon.

Rydym yn gyfrifol am gadw’r wybodaeth ac yn nodi bod y wybodaeth hon yn bwysig i chi.  Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn deg, yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol. 

Bydd unrhyw un sy’n derbyn gwybodaeth gennym hefyd dan ddyletswydd gyfreithiol i wneud yr un peth ac mae ganddynt set o gymalau diogelu data wedi eu cynnwys yn eu contract.

Fel rhan o’ch cais am le i anadlu, mae'n ofynnol yn ôl deddfwriaeth i Gonwy sicrhau bod holl systemau'r Awdurdod Lleol yn cael eu hadolygu ar gyfer unrhyw ddyledion cymwys na chawsant eu datgan ar eich cais Lle i Anadlu cychwynnol. Felly, mae'n ofynnol i ni ohebu â'ch cynghorydd dyled pe bai unrhyw ddyledion pellach yn cael eu nodi gan unrhyw adran yn yr Awdurdod Lleol. Bydd y data hwn wedi'i gael o chwiliadau system a gynhaliwyd gan nifer o adrannau yn yr Awdurdod Lleol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan eich cynghorydd dyled wybodaeth am yr holl ddyledion cymwys er mwyn asesu'r llwybr gorau ymlaen ar gyfer eich sefyllfa ariannol.

Unwaith y byddwn yn derbyn cais am le i anadlu, bydd yr holl ddyledion hysbys yn cael eu rhoi ar y cyfnod aros gorfodol fel y nodir mewn deddfwriaeth.

 

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth

Wrth benderfynu pa wybodaeth bersonol i’w chasglu, ei defnyddio a’i chadw, rydym yn ymroddedig i wneud yn siŵr y byddwn yn:

  • Casglu, cadw a defnyddio gwybodaeth lle mae angen gwneud hynny, a lle mae’n deg gwneud hynny’n unig
  • Bod yn agored gyda chi ynghylch sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, a gyda phwy rydym yn ei rhannu
  • Mabwysiadu a chynnal safonau uchel o arfer gorau wrth drin unrhyw wybodaeth bersonol
  • Cadw eich gwybodaeth bersonol yn saff ac yn ddiogel
  • Cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel, pan nad oes ei hangen bellach

Efallai y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith, lle mae angen y wybodaeth honno ar y trydydd parti hwnnw i ddarparu gwasanaeth i chi ar ein rhan neu lle y caniateir fel arall o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data.  Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gan y trydydd parti systemau a gweithdrefnau digon cadarn ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth am fwy o amser nag sydd ei angen. Mae ein hatodlenni cadw dogfennau’n cynnwys gwybodaeth am ba mor hir rydym yn cadw gwahanol fathau o wybodaeth. Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

 

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Mae’n bosibl y caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu gyda phartneriaid allanol ac asiantaethau’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar ein rhan.  Byddant ond yn cael mynediad at eich gwybodaeth os oes ei hangen arnynt.

Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen hynny, naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith neu le y caniateir hynny dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

 

Eich hawliau gwybodaeth

Dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae gennych chi fel “Gwrthrych Y Data”, yr hawliau canlynol.

Mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • Gweld yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch
  • Gofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth amdanoch sy’n anghywir. Gellir gwneud newidiadau i gamgymeriadau bach megis newid cyfeiriad, ond bydd yn dibynnu ar y diben.  Ni chaniateir newid cofnodion, gan gynnwys datganiadau a barn, ond bydd dewis i chi ddarparu datganiad atodol, a gaiff ei ychwanegu at y ffeil
  • Gwneud cais i’r cofnodion a gedwir amdanoch gael eu dileu
  • Cyfyngu ar ddefnydd o’r wybodaeth a gedwir amdanoch os ydych wedi mynegi eich gwrthwynebiad, tra ymchwilir i’r gwrthwynebiad
  • Gwneud cais i unrhyw wybodaeth rydych wedi ei darparu i ni gael ei dychwelyd atoch mewn ffurf y gallwch ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen
  • Gwneud cwyn i Swyddfa Wybodaeth y Comisiynydd os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd y mae’r wybodaeth amdanoch wedi ei thrin

 

Atal, canfod ac ymchwilio i dwyll

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddiogelu’r cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol o dan ei bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ddarparu’r wybodaeth sydd ganddynt at y diben hwn.  Fel cyrff cyhoeddus, mae’n ddyletswydd arnom i ddiogelu’r arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu ac i'r perwyl hwn gallwn ddefnyddio unrhyw wybodaeth y gallech fod wedi'i darparu ar gyfer atal, canfod ac ymchwilio i dwyll neu i gydymffurfio â'r gyfraith.

Yn ogystal â chynnal ein hymarferion ‘paru data’ ein hunain efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth â chyrff cyhoeddus eraill. Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Yr Heddlu
  • GIG

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda darparwyr gwasanaeth neu gontractwyr a sefydliadau partner, lle mae rhannu gwybodaeth yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyfreithlon.

 

Mae gennych hawl i gael Mynediad at yr wybodaeth sydd gennym amdanoch

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei ddal amdanoch.  Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost neu drwy’r post gan roi cymaint o fanylion â phosibl am yr wybodaeth rydych ei hangen.

Gweler y ffurflen a’r polisi cais am fynediad at ddata gan y testun.

Byddwch yn derbyn copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch ynghyd ag eglurhad am unrhyw godau a ddefnyddir neu eglurhad arall fel bo angen.

 

Gofyn fod rhywun arall yn edrych ar eich gwybodaeth ar eich rhan

Gallwch wneud cais i rywun arall edrych ar eich cofnodion ar eich rhan.  I wneud hyn bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig i ni yn gyntaf pwy rydych chi am gael gweld eich gwybodaeth.  Os oes perthynas nu rhywun arall yn dymuno gweld cofnodion unigolyn na all roi ei ganiatâd, ni chaniateir hyn ddim ond ble gellir dangos bod hynny er budd pennaf y sawl sydd dan sylw.

 

Sut i gysylltu gyda ni

I arfer unrhyw rai o’ch hawliau o dan y ddeddf Diogelu Data, cysylltwch â ni:

  • drwy e-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
  • dros y ffôn: 01492 574016
  • drwy'r post: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb y byddwch yn ei dderbyn gennym mae gennych hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

  • drwy'r post:Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru, 2il Lawr, Churchill House, Churchill Way, Caerdydd, CF10 2HH
  • Rhif ffôn: 029 2067 8400
  • Ffacs: 029 2067 8399
  • E-bost: wales@ico.org.uk
  • Gwefan: ico.org.uk

 

Gwybodaeth Cydraddoldeb

Gallwn ddefnyddio gwybodaeth am eich cefndir ethnig, eich iaith gyntaf, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’ch oed er mwyn casglu ystadegau am boblogaeth yr ardal a’r defnydd o’n gwasanaethau.  Mae hyn er mwyn helpu i gydymffurfio a’n goblygiadau cyfreithiol ac i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.

Ni fydd dadansoddiad o’r fath yn adnabod unigolion neu’n cael effaith ar hawl i dderbyn gwasanaeth a chyfleusterau.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content