Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Grymuso Cymunedau Amrywiol i Ennill Cyflogaeth – Hysbysiad Preifatrwydd

Grymuso Cymunedau Amrywiol i Ennill Cyflogaeth – Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolydd Data sydd wedi’i gofrestru gyda Swyddog y Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Bydd y Cyngor, Gwasanaeth Pobl a Pherfformiad Conwy yn benodol, yn gweinyddu arolwg ynglŷn â grymuso cymunedau amrywiol i gyflogaeth.

Y rheswm (diben) pam mae angen prosesu eich data personol yw:

Mae hwn yn ddarn o waith rhanbarthol sy’n cael ei gyflawni ar ran cyrff y sector cyhoeddus ledled Gogledd Cymru.  Ei nod yw casglu gwybodaeth ystadegol i’n galluogi i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol a chael eich barn am ein gwasanaethau, yn enwedig mewn perthynas â darparu prosesau recriwtio cynhwysol.

Dyma’r data personol a fydd yn cael ei gasglu a’i brosesu:

Prif Arolwg

  • Data Gwe (e.e. data lleoliad, cyfeiriad IP, cwcis)
  • Cod post rhannol

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol yw:

(gweler Lawful basis for processing | ICO)

(a) Caniatâd: mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gesglir ac a brosesir (os o gwbl):

Gwybodaeth cydraddoldeb (os darparwyd)

  • Hil
  • Rhyw
  • Ailbennu Rhywedd
  • Anableddau
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Crefydd a Chred
  • Oedran
  • Priodas a Phartneriaeth Sifil
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth


Mae’n bosib’ y byddwn yn defnyddio gwybodaeth am eich cefndir ethnig, eich iaith gyntaf, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’ch oed er mwyn casglu ystadegau am boblogaeth yr ardal a’r defnydd o’n gwasanaethau.

Fe wneir hyn i helpu i gydymffurfio a’n goblygiadau cyfreithiol ac i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.

Pa ddata sy’n cael ei gasglu?

Rydym ni’n casglu data ar ethnigrwydd, crefydd, statws priodasol, anabledd, rhyw, rhywioldeb – mae’r rhain oll yn nodweddion a ddiogelir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Pam bod arnoch chi angen y wybodaeth yma?

Fel Cyngor mae’n bwysig ein bod ni’n gallu dal ein hunain i gyfrif fel Awdurdod Lleol cyfrifol sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal a theg i bawb.

Bydd casglu data cywir yn sicrhau ein bod ni’n gallu gwella ein dealltwriaeth o’r bylchau sydd angen ein sylw, gan fonitro ein cynnydd fel Awdurdod Lleol mewn perthynas â gosod premiymau Treth y Cyngor yn y dyfodol.

A fydd hyn yn ddienw?

Bydd y data yn ddienw.

Pwy fydd yn gweld y wybodaeth hon?

Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio ar gyfer y diben a nodwyd uchod yn unig.

Mae gennym ni weithdrefnau cadarn ar waith i wneud yn siŵr mai dim ond unigolion perthnasol sy’n gallu defnyddio’r wybodaeth hon a hynny at ddibenion cynnal dadansoddiad o’r data cydraddoldeb; ni fydd y wybodaeth yn hygyrch i’r Awdurdod ehangach.

A fydd fy ngwybodaeth yn ddiogel?

Bydd. Mae yna gyfreithiau diogelu data cadarn ar waith i sicrhau ein bod ni’n diogelu eich manylion personol ac yn eu cadw’n ddiogel.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data categori arbennig yw:
 
(gweler Special category data | ICO)

Pan brosesir -
(a) Caniatâd penodol

Sut/ble caiff eich data ei storio:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amrywiaeth o systemau gwahanol i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu cynnal yn fewnol, tra bo eraill yn cael eu cynnal gan sefydliadau trydydd parti drwy'r cwmwl.

Am ba hyd y bydd eich data’n cael ei gadw:

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw a gynhwysir ym Mholisïau Cadw Data / Dogfennau’r Cyngor ar gyfer pob maes data a gesglir.

Mae pob galwad ffôn a dderbynnir ac a wneir trwy linellau tir y Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau yn cael eu cofnodi at ddibenion hyfforddi a monitro. Bydd recordiadau o'r galwadau hyn yn cael eu cadw am 90 diwrnod.

Ni fyddwn yn cadw data personol neu ddata categori arbennig a gesglir yn ystod gweithgareddau ymgysylltu am fwy na 12 mis oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni gadw eich manylion cyswllt er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad neu at ddibenion marchnata yn y dyfodol.

Gyda phwy y gellir rhannu eich data:

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill naill ai i storio gwybodaeth bersonol neu i’n helpu i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwn yn teimlo bod rheswm da dros wneud hynny sy’n bwysicach na diogelu eich preifatrwydd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn canfod ac atal trosedd a thwyll.

Dyma’r rhai rydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth â nhw:

  • Gwasanaethau / Adrannau eraill CBSC at ddibenion Materion Gorfodaeth y Cyngor lle bo angen.
  • Cyrff sy'n archwilio neu'n prosesu hawliadau
  • Asiantaethau yn y sector cyhoeddus e.e. Yr Adran Gwaith a Phensiynau, CThEF, awdurdodau lleol eraill a chwmnïau sector preifat fel asiantaethau gwirio credyd
  • Cwmnïau sy’n hwyluso’r arolwg ymgynghori e.e. Snap
  • Cyrff sy'n gweithio i atal twyll a chefnogi mentrau twyll cenedlaethol.
  • Cwmnïau sy’n hwyluso arolwg ymgynghori premiwm Treth y Cyngor e.e. Snap

Efallai y byddwn yn defnyddio eich adborth cwsmeriaid yn ddienw ar gyfer deunydd marchnata a chyfathrebu.

Mae gennym drefniadau gydag amrywiaeth o ddarparwyr TG sy’n cefnogi systemau a gwasanaethau TG y Cyngor, felly mae’n bosibl y bydd y cyflenwyr hyn yn cael mynediad at eich data. Pan fydd y trefniadau hyn gennym, mae cytundeb contract gyda nhw bob amser i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Gyfraith Diogelu Data.

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith, mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i weld y data personol sydd gennym amdanoch chi.
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym.
  • yr hawl i ddileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
  • yr hawl mewn amgylchiadau cyfyngedig i gyfyngu ar sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio.
  • yr hawl i wrthwynebu defnyddio eich data personol.

Yn y sefyllfaoedd prin lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd fel y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol, gallwch dynnu’r caniatâd hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler hefyd Wasanaeth perthnasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Hysbysiadau Preifatrwydd Llawn:

Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Gwella a Datblygu Corfforaethol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Hysbysiad Preifatrwydd Refeniw a Budd-daliadau - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Hysbysiad Preifatrwydd Treth y Cyngor - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol (os oes angen)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dewis Snap fel is-brosesydd i hwyluso’r arolwg. Mae mwy o fanylion ar gael isod:

Polisi Preifatrwydd - Snap Surveys

Cysylltu â'r gwasanaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y manylion sydd yn y ddogfen hon, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

Yr Uned Rheoli Gwybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio neu os ydych chi’n dymuno arfer unrhyw rai o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Yr Uned Rheoli Gwybodaeth
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

info-gov.unit@conwy.gov.uk

01492 574016/577215

Os ydych chi’n credu ein bod wedi methu â thrin a rheoli eich data personol yn briodol, mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content