Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Adain Gyfreithiol, y Gyfraith a Llywodraethu

Adain Gyfreithiol, y Gyfraith a Llywodraethu


Summary (optional)
start content

Dyddiad Adolygu: Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i Adain Gyfreithiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy’n dod o fewn y Gyfraith a Llywodraethu.

Pwrpas ar gyfer Prosesu a Sail Gyfreithiol

Mae’r Adain Gyfreithiol yn darparu nifer o wasanaethau i adrannau cleientiaid mewnol, cleientiaid allanol, Cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd (materion cynhennus ac anghynhennus). Mae’r prosesu yn angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau hyn, a allai fod ar unrhyw un o’r seiliau cyfreithiol a ganlyn:

  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu mewn ymarfer o awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Mae’n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu unigolyn arall
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer pwrpas buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y rheolydd data neu drydydd parti
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad contract gyda gwrthrych y data
  • Caniatâd gwirfoddol gwrthrych y data

Gwybodaeth a Gesglir

Mae’n bosibl y cesglir y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Manylion ariannol
  • Dulliau adnabod
  • Perthynas agosaf, enw a manylion cyswllt
  • Manylion euogfarnau troseddol blaenorol
  • Asesiadau lles
  • Adroddiadau asesu
  • Adroddiadau iechyd

Gyda phwy y gallwn rannu eich gwybodaeth

  • Gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae’n angenrheidiol rhannu’r wybodaeth gyda hwy er mwyn i’r Adain Gyfreithiol berfformio ei swyddogaeth o ran eich mater penodol
  • Aelodau (Cynghorwyr) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Awdurdod Refeniw Cymru
  • Cyllid a Thollau EM
  • CAFCASS
  • Cynghorau Sir/Bwrdeistref/Tref neu Gymuned Eraill
  • Sefydliadau Ariannol (e.e. banciau, cymdeithasau tai, asiantaethau ymchwilio i statws credyd)
  • Cleientiaid allanol
  • Cwmnïau cyfreithiol allanol
  • Bargyfreithwyr
  • Gweithwyr proffesiynol eraill fel cyfrifwyr, archwilwyr, gwerthwyr tai a syrfewyr
  • Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Cymru yn Gweithio ar y Cyd
  • Awdurdodau Lleol eraill a chyrff sector cyhoeddus
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Archwilwyr allanol

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Bydd yr Adain Gyfreithiol yn cadw a dinistrio eich gwybodaeth yn unol â’i Hamserlen Cadw, a gellir ei gweld gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Yn dibynnu ar y math o fater, bydd hyn naill ai 6 mlynedd, 12 mlynedd neu 75 mlynedd ar ôl i’r ffeil gael ei chau.

Eich Hawliau

Mae gennych hawl:

I gyrchu’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch – gwnewch gais ar-lein neu cysylltwch â ni ar y Manylion Cyswllt isod.

I wneud cais i gywiro unrhyw wybodaeth amdanoch sy’n anghywir – Gellir newid gwallau syml megis newid mewn cyfeiriad, yn dibynnu ar bwrpas ei ddefnydd.  Efallai na fydd hi’n bosib newid cofnodion megis datganiadau neu farn, ond bydd dewis i chi ddarparu datganiad ychwanegol, a fydd yn cael ei ychwanegu i'r ffeil. 

I wneud cais i ddileu’r cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch - gall hyn fod yn gyfyngedig, yn dibynnu ar y sail gyfreithiol.

I gyfyngu’r defnydd o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch – Os ydych wedi gwrthwynebu, efallai y byddwn yn cyfyngu’r cyfnod ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio.

I wneud cais i gael unrhyw wybodaeth rydych wedi ei darparu i ni yn ôl ar fformat y gallwch ei roi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen – mae hyn ond yn berthnasol os yw'r wybodaeth rydych wedi ei darparu yn ymwneud â pherfformiad y contract.

I wrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol, yn cynnwys gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio - ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomatig neu broffilio.

I wneud cwyn – gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn hapus gyda sut yr ymdriniwyd â’r wybodaeth amdanoch.    Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cael eu cynnwys ar Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Manylion Cyswllt Rheolwr Data
Delyth E Jones
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

01492 576210
cyfreithiol@conwy.gov.uk

Swyddog Diogelu Data
Derek O'Connor
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

01492 574016 derek.oconnor@conwy.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Hysbysiad Preifatrwydd Llawn

Mae copi o Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael ar wefan y Cyngor, gweler y ddolen isod:

www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.  Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol. 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content