Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Gwasanaeth yr Economi a Diwylliant, Gwasanaethau Hamdden - Hysbysiad Preifatrwydd Gwiriad GDG

Gwasanaeth yr Economi a Diwylliant, Gwasanaethau Hamdden - Hysbysiad Preifatrwydd Gwiriad GDG


Summary (optional)
start content

Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rheolwr data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Gwasanaeth yr Economi a Diwylliant, Gwasanaethau Hamdden.

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol yw:

Er mwyn penderfynu ar eich addasrwydd ar gyfer rôl yn y Gwasanaeth.

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Dogfennau hunaniaeth at ddiben prosesu gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol yw:

(Gweler https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/lawful-basis-for-processing/ )

(a) Caniatâd: mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir;

(b) Contract: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer contract cyflogaeth posibl gyda’r unigolyn;

(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â’r gyfraith, sef::

  • Rhan V Deddf yr Heddlu 1997;
  • Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;
  • Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975.

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):

Dim.

Ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data categori arbennig yw:

(Gweler https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/lawful-basis-for-processing/special-category-data/ )

Sut/lle caiff eich data ei storio:

Caiff gwybodaeth ei chadw’n ddiogel ar rwydwaith CBSC.

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Caiff gwybodaeth ymgeiswyr llwyddiannus ei chadw’n ddiogel ar rwydwaith CBSC a’i gwaredu’n gyfrinachol 6 mlynedd ar ôl i’w cyflogaeth gyda’r awdurdod ddod i ben.

Caiff gwybodaeth ymgeiswyr aflwyddiannus ei gwaredu’n gyfrinachol ar ôl i’r broses gyflogaeth ddod i ben: (h.y. yn syth ar ôl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn ei swydd.)

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu?:

Yn allanol gyda Gwiriadau Personél (ein hasiantaeth brosesu) a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod;
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi;
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch;
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach;
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol;
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.

Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel y sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:
https://www.conwy.gov.uk/en/Council/Access-to-Information/Privacy-Notices/How-Conwy-County-Borough-Council-uses-your-Information.aspx

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):

Dim.

Cyswllt gwasanaeth:

Lia Dawson, Uwch Swyddog Rheoli Busnes.

Uned Llywodraethu Gwybodaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Uned Lywodraethu Gwybodaeth,
Bwlch Post 1,
Conwy LL30 9GN

E-bost: info-gov.unit@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574016 / 01492 577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru,
2il Lawr,
Churchill House,
Ffordd Churchill,
Caerdydd CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content