Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiadau Preifatrwydd Gofal Cymdeithasol a Chefnogaeth i Oedolion

Hysbysiadau Preifatrwydd Gofal Cymdeithasol a Chefnogaeth i Oedolion


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd Gofal Cymdeithasol a Chefnogaeth i Oedolion


Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau cefnogaeth a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dylid ei ddarllen yn ychwanegol at Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid cyffredinol y Cyngor, Hysbysiad Preifatrwydd Iechyd Meddwl Oedolion, a’r Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gomisiynwyd.

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys:

  • Pwrpas dros brosesu
  • Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
  • Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
  • Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
  • Eich hawliau gwybodaeth

Pwrpas dros brosesu

Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn gwneud gwaith gweinyddu sylfaenol a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau cefnogaeth mewn lleoliadau cymunedol a phreswyl/gofal Iechyd naill ai’n uniongyrchol neu ar y cyd â phartneriaid, a darparwyr sector preifat a thrydydd sector a gomisiynwyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Asesu anghenion iechyd corfforol a meddyliol, dysgu ac ymddygiad, ariannol a gofal cymdeithasol, fel sy’n briodol, oedolion diamddiffyn a/neu eu gofalwyr/cynrychiolydd dynodedig/deiliaid Atwrneiaeth/Dirprwyon a Benodwyd gan Lysoedd, sydd angen pecynnau gofal cymdeithasol.
  • Galluogi darparu amrywiaeth o becynnau gofal cymdeithasol i oedolion wedi’u personoli
  • Cadw ein cyfrifon a chofnodion ein hunain
  • Cefnogi a rheoli ein gweithwyr
  • Dyfarnu a rheoli contractau gyda darparwyr gofal cymdeithasol fel a gomisiynwyd gennym ni a sicrhau ansawdd gofal i’n cwsmeriaid
  • Ffurfio’r farchnad darparwyr gofal cymdeithasol presennol a’r dyfodol drwy ymgynghori gyda chwsmeriaid a/neu eu gofalwyr/cynrychiolwyr
  • Darparu gwasanaethau “cyfeirio” i rywfaint o gyngor a chanllawiau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion
  • Darparu gwasanaeth cwynion os bydd pethau’n mynd o’u lle
  • Diogelu oedolion diamddiffyn
  • Atal trosedd
  • Cydymffurfio â threfn rheoleiddiol/arolygu (e.e. Ofsted a’r Comisiwn Ansawdd Gofal), gan gynnwys darparu ystadegau dienw
  • Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei ddyrannu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra.  Ar gyfer perfformiad contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau  (Cymru).

Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaethau yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy’n berthnasol i achosion unigol ond gallai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Manylion personol – e.e. enw / oedran / cyfeiriad / ysgol / a manylion teulu
  • Manylion cyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
  • Cyfeirnodau Personol – e.e. cyfeirnod cwsmer unigryw Gofal Cymdeithasol / Rhif Yswiriant Gwladol / rhif GIG
  • Manylion gwaith
  • Manylion ariannol – at ddibenion asesu ariannu
  • Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Barn a phenderfyniadau
  • Cofnodion o gwynion
  • Adroddiadau diogelu
  • Cofnodion myfyrwyr a disgyblion
  • Delweddau gweledol, ymddangosiad personol ac ymddygiad

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth categori arbennig (sensitif), sy’n berthnasol i achosion unigol ond gallai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Gwybodaeth Biometrig
  • Manylion iechyd corfforol neu iechyd meddwl
  • Tarddiad hiliol neu ethnig
  • Credoau crefyddol neu gredoau eraill
  • Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
  • Ymlyniad gwleidyddol / barn
  • Tueddfryd Rhywiol

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Contract ar gyfer darparu gwasanaethau
  • Caniatâd
  • Diddordebau dilys at bwrpas rheoli gweithwyr

 

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni neu rydym wedi’i chasglu amdanoch gyda sefydliadau partner lle bo’n berthnasol i’r unigolyn a/neu eu darpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Yr Heddlu a’r gwasanaeth prawf
  • Yr Adran Iechyd
  • Gwasanaethau Iechyd – Meddygon Teulu, Deintyddion, Optegwyr, Gwasanaethau Ambiwlans, Ysbytai, Ymddiriedolaeth Partneriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (GIG), Grwpiau Comisiynu Clinigol, trefn arolygu Rheoleiddio - Y Comisiwn Ansawdd Gofal, Ofsted, Adrannau Llywodraeth Cymru
  • Caiff data ystadegol, dienw ei rannu gyda NHS Digital
  • Ysgolion/colegau
  • Asiantaethau Tai a darparwyr
  • Darparwyr Eiriolaeth a Phenodeiaeth wedi’u Comisiynu
  • Cartrefi Gofal a darparwyr gofal cymdeithasol eraill
  • Cwmnïau cyfleustodau
  • Cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar eich rhan pe na bai gennych allu i wneud penderfyniadau am eich gofal. Gan gynnwys ymhlith eraill:
    • Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol;
    • Rhai sydd ag Atwrneiaeth Arhosol
    • Dirprwy a Benodwyd gan y Llys
    • Cynrychiolydd enwebedig/aelod teulu agosaf
    • Aelodau eraill o’r teulu sydd â diddordeb yn eich iechyd meddwl a’ch gofal
    • Llys Gwarchod
  • Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Swyddfa Gartref
  • Cyllid a Thollau EM
  • Banciau a chymdeithasau adeiladu
  • Asiantaethau cyfeirio credyd
  • Bwrdd Diogelu Oedolion
  • Tîm(timau) oedolyn priodol/gofal cymdeithasol i blant
  • Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel bo’n briodol gan gynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Leol a’r Ombwdsmon Gofal Cymdeithasol
  • Sefydliadau Gwirfoddol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae gennym gytundebau rhannu data penodol ar waith gydag asiantaethau lleol ac weithiau mae’n ofynnol dan y gyfraith i ni drosglwyddo eich manylion i drydydd parti, er enghraifft, i atal trosedd.

Caiff gwybodaeth ei rhannu dim ond pan fo wirioneddol angen i’n helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny, neu yn yr holl amgylchiadau rhesymol, bod y datgeliad yn deg a chyfiawn at dibenion prosesu neu ei fod yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Y cyfnod safonol ar gyfer cadw cofnodion gofal cymdeithasol i oedolion yw 6 mlynedd ar ôl i wasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion ddod i ben.   Fodd bynnag, mae amrywiaeth o gyfnodau cadw eraill sy’n effeithio ar wahanol angen o ran gwybodaeth a gwasanaeth hefyd, ac mae’r rhain yn amrywio o 1 flwyddyn – 11 mlynedd gan ddibynnu ar y math o wybodaeth a gwasanaeth. DS Mae cyfnod cadw cofnodion Iechyd Meddwl yn cael ei gwmpasu gan Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Sylwch: gall cyfnodau cadw a nodwyd fod yn destun unrhyw ddaliadau cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth a gwrthwneud cyfnodau cadw safonol.

Eich hawliau gwybodaeth

Mae hawl gennych i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym sy’n berthnasol i chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.

Gallai fod gennych hawl i gywiro, cyfyngu, gwrthwynebu a dileu eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Gwrthrych gan ddefnyddio mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575803.

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/preifatrwydd i gael manylion cyswllt pellach ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

 

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys

  • Pwrpas dros brosesu
  • Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
  • Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
  • Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
  • Eich hawliau gwybodaeth

Pwrpas dros brosesu

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau gofal ac ôl-ofal iechyd meddwl i gwsmeriaid, eu gofalwyr a/neu gynrychiolwyr.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Asesu anghenion gofal iechyd meddwl, gan gynnwys mewn amgylchiadau penodol, Colli Rhyddid, ar gyfer cwsmeriaid a/neu eu gofalwyr a darparu’r pecyn gofal priodol
  • Cael cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, lleoliadau a phecynnau gofal ar gyfer cwsmeriaid a/neu eu gofalwyr
  • Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well
  • Ymchwilio i gwynion a phryderon
  • Cefnogi a rheoli ein gweithwyr
  • Defnyddir gwybodaeth ddi-enw yn seiliedig ar wybodaeth bersonol, ond heb ei chynnwys, ar gyfer cynllunio gwasanaethau ac adrodd ac adroddiadau ystadegol i’r Cyngor a’r Adran Iechyd

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Oedolion yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy’n berthnasol i achosion unigol ond gallai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Manylion personol – e.e. enw / dyddiad geni / cyfeiriad / a manylion teulu.   Mewn achosion pan nad oes gan y cwsmer allu meddyliol, bydd hyn hefyd yn cynnwys enw a manylion cyswllt perthynas/Cynrychiolydd a Benodwyd a/neu rhai gydag Atwrneiaeth Arhosol.
  • Manylion cyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
  • Cyfeirnodau Personol – Rhif Yswiriant Gwladol / rhif GIG, rhif cwsmer unigryw System Ofal
  • Manylion gwaith
  • Manylion Teulu – pan nad oes gan y cleient allu, enw, manylion cyswllt perthynas agosaf/deiliad Atwrneiaeth Arhosol
  • Manylion ariannol/manylion Budd-daliadau - at ddibenion asesiad ariannol a chyllido gofal
  • Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Barn a phenderfyniadau
  • Cofnodion o gwynion
  • Ymddangosiad personol ac ymddygiad

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), sy’n berthnasol i achosion unigol, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl, a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Manylion iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl
  • Tarddiad hiliol neu ethnig
  • Credoau crefyddol neu gredoau eraill
  • Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
  • Ymlyniad gwleidyddol / barn
  • Tueddfryd Rhywiol

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983/2007
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid 2009
  • Deddf Gofal 2014

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni neu rydym wedi’i chasglu amdanoch chi neu eich cynrychiolydd gyda sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Yr Heddlu
  • Iechyd gan gynnwys – Meddygon Teulu, Ysbytai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Cartrefi Gofal
  • Caiff data ystadegol, di-enw ei rannu gyda NHS Digital
  • Aseswyr Lles Gorau Annibynnol ac Aseswyr Iechyd Meddwl
  • Cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar eich rhan pe na bai gennych allu i wneud penderfyniadau am eich gofal.   Gan gynnwys ymhlith eraill:
    • Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol;
    • Rhai sydd ag Atwrneiaeth Arhosol
    • Dirprwy a Benodwyd gan y Llys
    • Cynrychiolydd enwebedig/aelod teulu agosaf
    • Aelodau eraill o’r teulu sydd â diddordeb yn eich iechyd meddwl a’ch gofal
    • Llys Gwarchod
  • Gwasanaethau Diogelu Sir Conwy
  • Tîm(timau) oedolyn priodol/gofal cymdeithasol i blant
  • Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel bo’n briodol gan gynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Mae gennym gytundebau rhannu data penodol ar waith gydag asiantaethau lleol ac weithiau mae’n ofynnol dan y gyfraith i ni drosglwyddo eich manylion i drydydd parti, er enghraifft, i atal trosedd.

Caiff gwybodaeth ei rhannu dim ond pan fo wirioneddol angen i’n helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny, neu yn yr holl amgylchiadau rhesymol, bod y datgeliad yn deg a chyfiawn at dibenion prosesu neu ei fod yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r rhai a gaiff eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983: 20 mlynedd o’r adeg pan nad oes angen triniaeth bellach yna cedwir gwybodaeth grynodeb am 10 mlynedd NEU 8 mlynedd o farwolaeth yr unigolyn os yw’r achos eisoes wedi cau

Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r rhai na gaiff eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983: 10 mlynedd o’r adeg pan nad oeddent yn cael gofal bellach neu 2 flynedd o farwolaeth yr unigolyn os oedd yr achos eisoes wedi cau

Sylwch: gall cyfnodau cadw a nodwyd fod yn destun unrhyw ddaliadau cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth a gwrthwneud cyfnodau cadw safonol.

 

Eich hawliau gwybodaeth

Mae hawl gennych i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym sy’n berthnasol i chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.

Gallai fod gennych hawl i gywiro a chyfyngu (pan fo’n gysylltiedig â chywiro) eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Gwrthrych gan ddefnyddio mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575803.

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/preifatrwydd i gael manylion cyswllt pellach ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

 

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gomisiynwyd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a gomisiynwyd a ddarperir gan bartneriaid sector preifat / trydydd sector ar gyfer ac ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dylid ei ddarllen yn ychwanegol at Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid cyffredinol y cyngor.

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys:

  • Pwrpas dros brosesu
  • Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
  • Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
  • Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:
  • Eich hawliau gwybodaeth

 

Pwrpas dros brosesu

Mae’r gwasanaethau yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • Llunio contractau gyda darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion
  • Darparu cyngor, canllawiau a hyfforddiant i ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn gwella darpariaeth gofal cymdeithasol ac ansawdd gofal
  • Gweinyddu ariannol o ran contractau darparwyr gofal cymdeithasol a bwrsarïau hyfforddiant darparwyr
  • Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well

Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol

Mae’r gwasanaethau yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy’n cynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Manylion personol – e.e. enw / oedran / cyfeiriad / ysgol / a manylion teulu
  • Manylion cyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
  • Cyfeirnodau Personol – e.e. rhif arholiad/cymhwyster darparwyr hyfforddiant, Rhif Yswiriant Gwladol, Rhif Set Ddata Sylfaenol Cenedlaethol; Rhif Darparwr, Rhif Bwrsari, Rhif Tŷ’r Cwmnïau
  • Manylion gwaith
  • Manylion ariannol – manylion cyfrif banc yn enwedig unig fasnachwyr ar gyfer taliadau a bwrsari/ariannu hyfforddiant
  • Trwyddedau / hawlenni
  • Cofnodion o gwynion
  • Delweddau gweledol
  • Ymddygiad – os yw’n berthnasol i gŵyn

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:

  • Contract ar gyfer darparu gwasanaethau
  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Tasgau a wnaed er budd y cyhoedd neu mewn ymarfer o awdurdod swyddogol

At ddibenion contractio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cefnogaeth a darparu cyngor, canllawiau a chefnogaeth hyfforddiant i’r darparwr gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Manylion iechyd corfforol neu iechyd meddwl
  • Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data sensitif (categori arbennig) hwn yw:

  • Caniatâd penodol
  • Data personol a wnaed yn gyhoeddus gan wrthrych y data
  • Sefydlu, ymarfer neu ddiogelu ceisiadau cyfreithiol

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni neu rydym wedi’i chasglu amdanoch chi gyda sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Darparwyr hyfforddiant Gofal Cymdeithasol
  • Yr Heddlu
  • Skills for Care
  • Grwpiau Comisiynu Clinigol
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Adran Gyfreithiol, Caffael, gwasanaethau Cwynion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Asiantaethau ymchwilio i statws credyd
  • Y Comisiwn Ansawdd Gofal

 

Mae gennym gytundebau rhannu data penodol ar waith gydag asiantaethau lleol ac weithiau mae’n ofynnol dan y gyfraith i ni drosglwyddo eich manylion i drydydd parti, er enghraifft, i atal trosedd.

Caiff gwybodaeth ei rhannu dim ond pan fo wirioneddol angen i’n helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny, neu yn yr holl amgylchiadau rhesymol, bod y datgeliad yn deg a chyfiawn at dibenion prosesu neu ei fod yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

  • 6 mlynedd o atal gwasanaethau i gwsmeriaid ar gyfer cofnodion sy’n ymwneud â chwsmeriaid
  • Y flwyddyn ariannol bresennol a 6 mlynedd ariannol ar gyfer hyfforddiant darparwyr gofal cymdeithasol
  • Caiff gwybodaeth gytundebol ei chadw am 6-12 mlynedd ar ôl i’r contract ddod i ben

Sylwch: bydd rhai cyfnodau cadw a nodwyd yn destun unrhyw ddaliadau cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth a gwrth-wneud cyfnodau cadw safonol.


Eich hawliau gwybodaeth

Mae hawl gennych i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym sy’n berthnasol i chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.

Gallai fod gennych hawl i gywiro, cyfyngu, gwrthwynebu a dileu eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Gwrthrych gan ddefnyddio mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575803. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/preifatrwydd i gael manylion cyswllt pellach ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content