Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Rheoli Datblygu ac Adeiladu - Hysbysiad Preifatrwydd

Rheoli Datblygu ac Adeiladu - Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r Tîm Rheoli Datblygu ac Adeiladu byddwn fel mater o drefn yn casglu gwybodaeth bersonol benodol gennych chi, er enghraifft: eich enw, eich rhifau ffôn, eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfeiriad cartref ac, ar adegau, efallai y bydd angen i ni neu y byddwn yn dymuno cyflenwi gwybodaeth bersonol arall ond bydd y math o wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar natur yr ymholiad / ymchwiliad a gallai hyn fod yn berthnasol i nifer o’n gwahanol wasanaethau megis: ymholiad am gyngor cyn ymgeisio, ceisiadau cynllunio, ymchwiliadau gorfodaeth, neu sylwadau ar gais neu apêl rydych yn ei wneud, Rheoliadau Adeiladu ac adeileddau peryglus, Pridiannau Tir Lleol gan gynnwys chwiliadau cynllunio a cheisiadau am chwiliadau personol.

Pwy ydym ni?

Mae’r gwasanaeth Rheoli Datblygu ac Adeiladu yn cynnwys y swyddogaethau canlynol:

  • Rheoli Datblygu
  • Rheoli Adeiladau
  • Gorfodaeth Cynllunio
  • Cadwraeth a Diogelu Coed
  • Pridiannau Tir Lleol

At ba ddiben ydym ni’n defnyddio data?

I ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau statudol, rydym yn cofnodi ac yn cynnal gwybodaeth bersonol fel y bo’n briodol yn ôl yr amgylchiadau.  Mae’r gwasanaeth ond yn prosesu Data Personol pan fod o leiaf un o’r amodau canlynol yn cael ei gyflawni:

  • Mae Gwrthrych y Data wedi rhoi caniatâd.
  • Mae angen hyn er mwyn cyflawni contract gyda Gwrthrych y Data.
  • Mae'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Mae angen hyn er mwyn diogelu diddordebau hanfodol Gwrthrych y Data neu unigolyn arall.
  • Mae’n angenrheidiol i gyflawni tasg a gyflawnwyd er lles y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol wedi ei freinio i'r Rheolydd Data.
  • Mae’n angenrheidiol at ddibenion diddordebau cyfreithlon a weithredir gan y Rheolydd Data neu drydydd parti.

Bydd yr amod perthnasol yn amrywio yn sgil amgylchiadau, ond yn bennaf, amodau 3, 5 a 6 yw’r prif resymau y cedwir gwybodaeth bersonol ac y caiff ei ddefnyddio gan y gwasanaeth.

Sut ydym ni’n defnyddio Data Personol?

Defnyddir data fel y disgrifir yn Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor ar wefan y cyngor ar https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd. Bydd y gwasanaeth yn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaeth diogelu data   Mae manylion diogelu data corfforaethol ar wefan y Cyngor ar: Diogelu Data

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cwblhau contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.   Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau  (Cymru).  

Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen hynny, naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith neu lle y caniateir hynny dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Bydd y Cyngor hefyd yn cyhoeddi sylwadau y mae’n eu derbyn ar geisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig ar ei wefan, gan gynnwys enwau a chyfeiriadau post ond ni fydd yn cyhoeddi rhifau ffôn na chyfeiriadau e-bost personol.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros gaffael a phrosesu gwybodaeth bersonol?

Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau.

Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw data personol?

Mae ein hatodlenni cadw yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â pha mor hir rydym yn cadw gwahanol fathau o wybodaeth ac mae’r cyfnodau cadw yn amrywio gan fod yn rhaid i ni gydymffurfio â gwahanol ofynion statudol ar gyfer cadw gwybodaeth. Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’m data personol?

Mae manylion llawn ynghylch sut y gallwch chi ofyn am ddata personol ar gael ar wefan y cyngor ar: Diogelu Data – Gwneud cais am eich data

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content