Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Ymgynghoriad ar yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol: Hysbysiad Preifatrwydd

Ymgynghoriad ar yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol: Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Y Strategaeth Tai  

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol yw:

Ymgymryd ag ymgynghoriad ar yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol drafft 2022-2037.

Bydd arolwg ar wahân yn gofyn cwestiynau monitro cydraddoldeb.  Bydd yr arolwg yn ddewisol.  

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Bydd cwestiynau monitro cydraddoldeb yn cael eu gofyn mewn arolwg ar wahân a fydd yn ddewisol.  Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu i lunio adroddiad cryno.  Defnyddir yr adroddiad cryno i werthuso a helpu llunio gweithrediadau thematig i'w cynnwys yn y Cynllun terfynol.   Bydd y data hwn yn cael ei gasglu yn ddienw ac ni fydd modd ei gysylltu ag unigolyn. 

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

a)    Cydsyniad  

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):

Bydd cwestiynau monitro cydraddoldeb yn cael eu gofyn mewn arolwg ar wahân, a fydd yn ddewisol. 

  • Oedran
  • Rhywedd
  • Anabledd
  • Grŵp ethnig
  • Rhywedd a bennwyd ar yr enedigaeth
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Statws priodasol / partneriaeth sifil
  • Crefydd
  • Absenoldeb beichiogrwydd / mamolaeth
  • Gofalwr di-dâl
  • Dewis iaith 

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data categori arbennig yw:

(gweler Data categori arbennig | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

a)    Caniatâd penodol 


 

Sut / lle caiff eich data ei storio:

Bydd holiadur ar-lein ar gael.  Bydd ymatebion i’r arolwg yn cael eu casglu ar lwyfan Gwasanaethau Llywodraeth. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amryw o wahanol systemau i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu gwesteio’n fewnol, tra bod eraill yn cael eu gwesteio gan sefydliadau trydydd parti ar sail gwesteiwr cwmwl o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. 

Lle darperir adborth dros e-bost neu drwy’r sesiynau galw heibio, bydd y wybodaeth yn cael ei chadw mewn dogfen Word, a bydd yn cael ei storio ar ein storfa fewnol.  

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Y flwyddyn gyfredol ac 1. 

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu:

Bydd gwybodaeth o’r ymgynghoriad yn cael ei defnyddio i ddiweddaru’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol drafft.   Unwaith y bydd wedi’i chymeradwyo gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle y Cyngor, a’r Cabinet, bydd y ddogfen hon ar gael ar wefan y Cyngor. 

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys: 

  • · yr hawl i gael gwybod
  • · yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi
  • · yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch
  • · yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach
  • · yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol   .
  • · yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.

Yn yr amgylchiadau prin lle’r ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gellwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:

 Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):

Ni fyddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’ch ymateb i’r ymgynghoriad, oni bai eich bod yn gofyn yn benodol i ni wneud hynny.

Cyswllt gwasanaeth:

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau o ran yr uchod, cysylltwch ag Anna Williams, Swyddog Tai Fforddiadwy (Y Strategaeth Tai / 01492 576274)

Uned Llywodraethu Gwybodaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â’r:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content