Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Gwarchod y Cyhoedd – Iechyd yr Amgylchedd - Safonau Masnach - Trwyddedu

Gwarchod y Cyhoedd – Iechyd yr Amgylchedd - Safonau Masnach - Trwyddedu


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r Tîm Gwarchod y Cyhoedd byddwn fel mater o drefn yn casglu gwybodaeth bersonol benodol gennych chi, er enghraifft: eich enw, eich rhifau ffôn, eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfeiriad cartref ac ar adegau, efallai y bydd angen i ni neu y byddwch chi’n dymuno darparu gwybodaeth bersonol arall.  Ond bydd y math o wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar natur yr ymholiad/ymchwiliad, a gallai hyn fod yn berthnasol i nifer o’n gwahanol wasanaethau, megis: ceisiadau am wasanaeth rheoli plâu, materion iechyd yr amgylchedd a bwyd, cyngor, gorfodaeth tai, ymchwiliadau, trwyddedau a chaniatâd, adrodd am drosedd neu sylwadau, hysbysiadau ac apeliadau y dymunwch chi eu gwneud.

Pwy ydym ni?

Mae gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn cynnwys y swyddogaethau canlynol:

  • Safonau Masnach
  • Trwyddedu, gan gynnwys Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • TCC

At ba ddiben ydym ni’n defnyddio data?

I ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau statudol, rydym yn cofnodi ac yn cynnal gwybodaeth bersonol fel y bo’n briodol yn ôl yr amgylchiadau.  Mae’r gwasanaeth ond yn prosesu Data Personol pan fod o leiaf un o’r amodau canlynol yn cael ei gyflawni:

  • Mae Gwrthrych y Data wedi rhoi caniatâd.
  • Mae angen hyn er mwyn cyflawni contract gyda Gwrthrych y Data.
  • Mae'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Mae angen hyn er mwyn diogelu diddordebau hanfodol Gwrthrych y Data neu unigolyn arall.
  • Mae’n angenrheidiol i gyflawni tasg a gyflawnwyd er lles y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol wedi ei freinio i'r Rheolydd Data.
  • Mae’n angenrheidiol at ddibenion diddordebau cyfreithlon a weithredir gan y Rheolydd Data neu drydydd parti.

Bydd yr amod perthnasol yn amrywio yn sgil amgylchiadau, ond yn bennaf, amodau 3, 5 a 6 yw’r prif resymau y cedwir gwybodaeth bersonol ac y caiff ei ddefnyddio gan y gwasanaeth.

Sut ydym ni’n defnyddio Data Personol?

Defnyddir data fel y disgrifir yn Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor ar wefan y cyngor ar: Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy . Bydd y gwasanaeth yn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaeth diogelu data. Mae manylion diogelu data corfforaethol ar wefan y Cyngor ar: Diogelu Data

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cwblhau contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.   Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau  (Cymru). 

Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen hynny, naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith neu lle y caniateir hynny dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Bydd y Cyngor hefyd yn cyhoeddi sylwadau y mae’n eu derbyn ar geisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig ar ei wefan, gan gynnwys enwau a chyfeiriadau post ond ni fydd yn cyhoeddi rhifau ffôn na chyfeiriadau e-bost personol.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros gaffael a phrosesu gwybodaeth bersonol?

Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau.

Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw data personol?

  • Cedwir cofnodion sy’n ymwneud â ffioedd a roddir ar eiddo neu dir nes bydd y ffioedd hynny wedi’u talu i’r cyngor neu wedi’u canslo;
  • Cedwir data camerâu a wisgir ar y corff a fideos TCC mannau cyhoeddus am 31 diwrnod cyn eu dileu. Dim ond os yw’r ffilm yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth y bydd yn cael ei gadw am gyfnodau hirach.  Yn yr achosion hynny, cedwir data am 6 mlynedd.

Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’m data personol?

Mae manylion llawn ynghylch sut y gallwch chi ofyn am ddata personol ar gael ar wefan y cyngor ar: Diogelu Data – Gwneud cais am eich data

Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content