Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Adran Rheoli Asedau ac Ystadau - Hysbysiad Preifatrwydd

Adran Rheoli Asedau ac Ystadau - Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i’r Adran Rheoli Asedau ac Ystadau, yn arbennig mewn perthynas â chaffael a gwaredu tir ac eiddo a rheoli a gosod tir ac eiddo gan y Cyngor i drydydd partïon / unigolion, a phan fydd yr Adran Rheoli Asedau ac Ystadau yn bwynt cyswllt cyntaf.

Pwrpas ar gyfer Prosesu a Sail Gyfreithiol

Mae angen prosesu er mwyn gallu darparu’r gwasanaeth gofynnol i chi.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella’n gwasanaeth lle bo hynny’n bosibl, heb ddatgelu pwy ydych chi.

Bydd angen prosesu hefyd er mwyn perfformio contract posibl gyda chi ac i warchod eich buddiannau hanfodol, y Cyngor a/neu unrhyw unigolyn arall wrth greu’r contract hwnnw.

Heb fanylion penodol mae’n bosibl na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth i chi.

Gwybodaeth a Gesglir

Mae’n bosibl y cesglir y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Manylion ariannol

Gyda phwy y gallwn rannu’r wybodaeth hon?

  • Gwasanaethau eraill (gan gynnwys Cynghorwyr) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Cynghorau Sir / Bwrdeistref / Dosbarth / Tref Eraill
  • Sefydliadau Ariannol (e.e. banciau, cymdeithasau tai, asiantaethau ymchwilio i statws credyd)
  • Cyfreithwyr
  • Gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymdrin ag eiddo

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am hyd ein contract / cytundeb gyda chi.  Byddwn yn parhau i gadw’ch gwybodaeth ar ôl terfynu ein contract / cytundeb gyda chi am gyfnod o 12 mlynedd AR Ôl i’r Cyngor ryddhau ei fudd cyfreithiol yn y tir neu’r eiddo yr oedd contract / cytundeb mewn lle ar ei gyfer.

A yw darparu data personol yn rhan o ofynion neu rwymedigaethau statudol neu gontract a beth yw canlyniadau posibl methu â darparu’r data personol.

Bydd darparu data personol yn un o rwymedigaethau'r contract.  Os methwch â darparu data personol mae’n bosibl na fydd y Cyngor yn gallu darparu’r gwasanaeth gofynnol i chi.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Hysbysiad Preifatrwydd Llawn

Mae copi o Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael ar wefan y Cyngor, gweler: www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd 

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Y sail gyfreithio yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).  

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content