Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Contractau a Chaffael Corfforaethol

Hysbysiad Preifatrwydd Contractau a Chaffael Corfforaethol


Summary (optional)
start content

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ddatganiad sy’n disgrifio sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio gwybodaeth bersonol, er enghraifft sut rydym yn casglu, defnyddio, cadw a datgelu gwybodaeth bersonol.  Y Cyngor yw’r rheolydd data ar gyfer contractau a chaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau ac mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Pa wybodaeth bersonol rydym yn ei brosesu?

Byddwn yn prosesu’r wybodaeth ganlynol fel rhan o’n gweithgareddau contractio a chaffael:

Gwybodaeth bersonol sylfaenol

  • Enw Llawn
  • Teitl Swydd a rôl yn y cwmni
  • Manylion cyswllt yn cynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost, cyfeiriad/lleoliad swyddfa
  • Manylion is-gontractwyr a phartneriaid consortiwm

Gwybodaeth bersonol arall:

  • CV yn cynnwys cymwysterau, sgiliau/arbenigedd, hanes cyflogaeth, graddfa ayyb. a gesglir at ddibenion tendro  
  • Gwybodaeth lawn yn gysylltiedig â throsglwyddo ymgymeriadau diogelu cyflogaeth i wybodaeth bersonol staff pan fo’n briodol, o ran gweithgareddau caffael unigol, yn cynnwys gwybodaeth anhysbys o ran telerau ac amodau cyflogaeth, cyflog, hyd gwasanaeth, dileu swydd, gwyliau, pensiwn, gwybodaeth atebolrwydd, disgyblaeth, anghydfod, manylion o hawliadau presennol neu fygythiadau ayyb..

Beth yw’r sail gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth?

Mae’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol wedi ei nodi o dan Erthygl 6(1)(b) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.  Dim ond ar gyfer casglu gwybodaeth contract, cyn arwyddo contract gyda chi fel unigolyn neu fel sefydliad, y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’r wybodaeth?

Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion contractio a chaffael o ran y cyflenwad o nwyddau, gwaith a gwasanaethau sydd dan gontract a chaffael.  Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn ôl yr angen ar gyfer dibenion:

  • drafftio, trafod, gweithredu a gwobrwyo contractau
  • cynnal gweithgareddau caffael a dyfynbrisiau
  • cyfathrebu yn ymwneud â busnes
  • gweithgareddau gwerthuso
  • gweithgareddau rheoli contract
  • dibenion contractio a chyfatebiaeth
  • gweithgareddau datgan cysylltiad
  • gweithgareddau adrodd ac ariannol
  • ymateb i ymholiadau
  • gwiriadau ariannol a busnes
  • rheoliadau trosglwyddo ymgymeriadau (diogelu cyflogaeth) neu TUPE
  • cadw cofrestr contractau a rhestr ddiweddaraf o bersonél allweddol y darparwr

Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol cyhyd ag sydd angen i gynnal y swyddogaethau hyn yn unig, ac yn unol â'n polisi cadw. Golyga hyn y cedwir y wybodaeth am 7 mlynedd o’r dderbynneb oni bai y nodir yn wahanol.

Nid oes gan unrhyw drydydd parti fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn eu caniatáu i wneud hynny.  Yr unig eithriad i hyn fydd ‘Gwybodaeth TUPE’ a gaiff ei rannu’n allanol gyda darparwyr eraill sydd â diddordeb mewn ymateb i’n cyfle tendro.  Cedwir hyn yn anhysbys o fewn y broses dendro cyn belled ag y bo hynny’n bosib.  Os yw darparwyr yn ystyried ymateb i’n tendr, neu os ydynt yn ymateb i'n cyfle tendro; byddent yn defnyddio'r wybodaeth i'w helpu i wneud y penderfyniad i ymateb, neu i gwblhau ein trefn dendro e.e. cwblhau'r rhestr brisiau. 

Dim ond ar ôl mynegi diddordeb yn ein cyfle tendro y cawn wybod enwau’r sefydliadau allanol.

Sut fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Ni fydd eich gwybodaeth bersonol sylfaenol yn cael ei rannu ond i’r rhai sydd angen gwybod:

  • yn fewnol, o fewn adrannau’r Cyngor gyda swyddogion awdurdodedig neu eu cynrychiolwyr dynodedig sy'n ymwneud â chysylltiadau penodol, TGCh, cyllid, archwilio, cyfreithiol ayyb.
  • asiantaethau eraill megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Awdurdodau Lleol eraill
  • porth e-gaffael lle bo’n berthnasol ar gyfer cwblhau gweithgareddau caffael yn llwyddiannus (gwerthwchigymru, e-dendrcymru ayyb)
  • systemau rheoli cyfrifiadurol mewnol megis Paris, O brynu hyd dalu

Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu ond i’r rhai sydd angen gwybod, ac yn anhysbys fel rhan o weithgareddau caffael cyn belled ag y bo hynny’n bosib.

Eich Hawliau Gwybodaeth

Mae gennych hawl i weld yr wybodaeth rydym yn ei gadw gan wneud cais ysgrifenedig. Os ydych chi’n credu, ar unrhyw adeg, bod y wybodaeth rydym yn ei brosesu yn anghywir, gallwch wneud cais i’w gywiro. Pe dymunech godi cwyn am y ffordd rydym wedi delio â'ch data personol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio’r mater.

Os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb neu os credwch nad ydym yn prosesu eich data yn unol â'r gyfraith, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.


Manylion Cyswllt

Rheolwr Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Pennaeth Gwasanaethau Archwilio a Chaffael
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

01492 576210
mike.halstead@conwy.gov.uk

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Derek O’Connor
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

01492 574016
derek.oconnor@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content