Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog

Hysbysiad Preifatrwydd Digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog


Summary (optional)
start content

Ein Cyfrifoldebau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu, prosesu ac yn cadw ystod eang o wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, er mwyn darparu gwasanaethau o fudd i chi.

Rydym yn gyfrifol am gadw’r wybodaeth ac yn nodi bod y wybodaeth hon yn bwysig i chi. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn deg, yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cwblhau contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).

Dylid darllen Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg ar y cyd gyda Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd i’w weld ar https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at bwrpasau cyfyngedig a bydd o hyd yn unol â’n cyfrifoldebau; pan mae sail gyfreithiol, ac yn unol â'ch hawliau dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, a all gynnwys eich enw, sefydliad y cyfryngau, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad a’ch rhif ffôn at y pwrpasau canlynol:

  • anfon gwybodaeth atoch ynglŷn â threfniadau digwyddiadau Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog fel cyfranogwr, gwestai, cystadleuwr, arddangoswr, stondinwr, cyflenwr neu rhanddeiliad;
  • galluogi i ni gyfathrebu â chi a darparu’r gwasanaethau sydd ei angen arnoch;
  • monitro ein perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau i chi;

Efallai na fyddai modd darparu’r gwasanaeth hwn i chi os nad oes gennym wybodaeth ddigonol, ac mewn rhai achosion, eich cydsyniad i ddefnyddio’r wybodaeth honno.

Rydym yn anelu at gadw eich gwybodaeth yn gywir ac yn ddiweddar. Gallwch ein helpu ni i wneud hyn ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni os yw’r wybodaeth a roesoch i ni, megis eich cyfeiriad, yn newid.

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Byddwn ond yn casglu, dal a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny. Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth bersonol ar ôl digwyddiad 2018, sef dim hwyrach na 31/12/18. Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel os ydych yn rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth mwyach.

Gyda phwy y gallwn rannu’r wybodaeth hon?

Gall eich gwybodaeth bersonol ei rhannu, pan fo’n briodol ac yn berthnasol, gyda gwasanaethau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu bartneriaid allanol sy’n trefnu digwyddiadau Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018. Byddant ond yn cael mynediad i’ch gwybodaeth pan fo’n angenrheidiol i berfformio tasg er budd y cyhoedd.

Gyda’ch caniatâd chi, gellir rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda threfnwr Digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog, y flwyddyn nesaf. Byddant ond yn cael mynediad at eich gwybodaeth os oes ei hangen arnynt i ddarparu gwasanaeth i chi.

Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti arall, oni bai fod hynny’n ofynnol dan y gyfraith. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth at bwrpasau marchnata gyda chwmnïau tu allan i Wasanaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo na’i rhannu gydag unrhyw sefydliad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Sut i gysylltu gyda ni

I arfer unrhyw rai o’ch hawliau o dan y ddeddf Diogelu Data, cysylltwch â ni:

Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata
Bodlondeb
Ffordd Bangor
Conwy
LL32 8DU


Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch gennym, mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content