Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Gwasanaethau Tai - Hysbysiad Preifatrwydd

Gwasanaethau Tai - Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Pwy ydym ni?

Mae Gwasanaethau tai yn cynnwys y swyddogaethau canlynol:

  • Datrysiadau Tai
  • Y Strategaeth Dai (yn cynnwys Cefnogi Pobl)
  • Gwelliannau Tai

Ar gyfer beth rydym yn defnyddio data?

I ddarparu ein gwasanaethau a pherfformio swyddogaethau statudol, rydym yn cofnodi ac yn cadw gwybodaeth bersonol fel y bo’n briodol i amgylchiadau.  Prosesir Data Personol gan y gwasanaeth yn unig pan fodlonir o leiaf un o’r amodau canlynol:

  • Mae cydsyniad gan Wrthrych y Data.
  • Mae’n angenrheidiol i berfformiad contract gyda Gwrthrych y Data.
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Mae’n angenrheidiol diogelu diddordebau hanfodol Gwrthrych y Data neu unigolyn arall.
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu mewn ymarfer o awdurdod a roddir i'r Rheolydd Data.
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer pwrpas diddordebau cyfreithlon a ddilynir gan y Rheolydd Data neu drydydd parti.

Bydd yr amod perthnasol yn amrywio oherwydd amgylchiadau, ond ym mhrif amod 5 a 6 mae'r rhesymau pennaf dros gadw a defnyddio gwybodaeth bersonol gan y gwasanaeth.

Gallu rhoi cymorth i chi ac ymgymryd â’ch rhwymedigaeth o roi gwybodaeth mewn categorïau arbennig

Categorïau Arbennig

Mae data categorïau arbennig yn cynnwys tarddiad hiliol neu ethnig unigolyn, barn wleidyddol neu gredoau tebyg, aelodaeth undeb llafur (neu dim aelodaeth), iechyd corfforol neu feddyliol, neu gyflwr, troseddau, neu weithgareddau perthnasol. 

Prosesir y wybodaeth hon gan y gwasanaeth yn unig pan fodlonir o leiaf un  o’r amodau canlynol:

  • Mae’n angenrheidiol gweithredu rhwymedigaethau dan gyfraith gwaith, nawdd cymdeithasol neu ddiogelu cymdeithasol, neu gydgytundeb.
  • Mae’n angenrheidiol diogelu diddordebau hanfodol gwrthrych y data neu unigolyn arall.
  • Caiff ei gweithredu gan gorff nid er elw gyda nod gwleidyddol, athronyddol, crefyddol neu undeb llafur.
  • Mae’n ymwneud â data personol sy’n amlwg wedi ei wneud yn gyhoeddus gan wrthrych y data.
  • Mae’n angenrheidiol i’r sefydliad ymarfer neu ddiogelu ceisiadau cyfreithiol pan fo’r llysoedd yn gweithredu eu capasiti cyfreithiol.
  • Mae’n angenrheidiol am resymau o fudd sylweddol y cyhoedd o fewn cyfreithiau aelod-wladwriaeth yr UE.
  • Mae’n angenrheidiol er pwrpas ataliol neu feddygaeth alwedigaethol, ar gyfer asesu capasiti gweithio gweithiwr, diagnosis meddygol, darpariaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reolaeth systemau iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Mae’n angenrheidiol er rhesymau budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd.
  • Mae’n angenrheidiol er pwrpas cofnodi er budd y cyhoedd, neu bwrpasau gwyddonol, ymchwil hanesyddol neu ystadegol.

Bydd yr amod perthnasol yn amrywio oherwydd amgylchiadau, ond ym mhrif amod 7 mae'r rhesymau pennaf dros gadw a defnyddio gwybodaeth bersonol gan y gwasanaeth.

Sut ydym ni’n trafod data personol?

Caiff y data ei ddefnyddio fel y disgrifir yn Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor ar eu gwefan https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd. Bydd y gwasanaeth yn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaeth diogelu data cymwys. Mae manylion o weithdrefnau diogelu data corfforaethol ar gael yma: Diogelu Data

Beth yw’r sail gyfreithiol dros gael a phrosesu gwybodaeth bersonol?

Mae hyn yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad ein swyddogaethau.

Am ba hyd ydym ni’n cadw’r data?

Mae data personol yn cael ei gadw rhwng 1 blwyddyn a 12 mlynedd, heblaw y nodir

Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’m data personol?

Mae manylion llawn ar sut i wneud cais am ddata personol ar gael yma: Diogelu Data – Gwneud cais am eich data.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content