Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Ymgysylltu Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol

Ymgysylltu Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol


Summary (optional)
start content

Ymgysylltu Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol

Yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) sy’n dod i rym ar 25 Mai 2018, mae'r hysbysiad hwn yn hysbysu'r hyn mae Tîm Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wneud gydag unrhyw ddata personol neu gategori arbennig sy’n cael ei gasglu fel rhan o’n gweithgaredd ymgysylltu.

Byddwn ni’n adolygu’r hysbysiad hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnwys unrhyw newidiadau pellach sy’n cael eu gwneud gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Casglu data personol

Fel rhan o’i waith ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i sefydliadau partner, mae’r tîm Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol (CIDT) weithiau’n cynnal gweithgaredd ymgysylltu cymuned a phartneriaeth, er mwyn helpu i rannu a hysbysu’r Cyngor am weithgareddau a phrosiectau cynllunio strategol a helpu monitro ac adrodd ar ein perfformiad. Gall y gweithgaredd hwn fod mewn ffurf arolygon ar-lein, ffurflenni adborth, cyswllt e-bost, sesiynau grŵp ffocws, cyfweliad wyneb i wyneb neu fathau eraill o ymgynghoriad a chyfranogiad.  Fel rhan o’r weithgaredd ymgysylltu gallwn gasglu gwybodaeth bersonol gennych, er mwyn ein helpu i ddeall pwy sy’n cysylltu gyda ni ac yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â chi.

Beth a olygwn gyda data personol a chategori arbennig?

Mae gwybodaeth neu ddata personol yn golygu unrhyw beth all ei ddefnyddio i adnabod unigolyn.  Data categori arbennig yw data personol all fod yn arbennig o sensitif, fel data am hil, iechyd neu gysylltiadau gwleidyddol, ac fel arfer angen cael ei drin yn fwy gofalus.

Mae bob ymgysylltiad yn wahanol, ond mae esiamplau o ddata personol a chategori arbennig all gael eu casglu yn cynnwys:

  • enw
  • gwybodaeth cyswllt fel cyfeiriad eich cartref neu fusnes, eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn
  • eich ymatebion i’r arolwg
  • gwybodaeth sy’n gysylltiedig â nodweddion a ddiogelir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 megis
    • oedran
    • rhyw
    • hil
    • anabledd
    • cyfeiriadedd rhywiol
    • cenedligrwydd

Beth sy’n digwydd i'ch gwybodaeth?

Caiff data personol ei gasglu os rhowch chi ganiatâd i wneud hynny’n unig, a byddwn yn ei gwneud hi’n glir y rheswm dros ddefnyddio'r wybodaeth pan fyddwn yn ei gasglu. Gallwch ddewis peidio â rhoi rhai neu'r holl ddata personol rydym ni'n gofyn amdano.

Caiff manylion cyswllt eu casglu i’n helpu ni gadw mewn cysylltiad â chi am unrhyw gynnydd neu ddatblygiadau yn y materion a trafodwyd rhyngom.

Mae gwybodaeth cydraddoldeb yn cael ei chasglu’n unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a defnyddir er mwyn sicrhau bod y gweithgaredd ymgysylltu yn gynrychiolaeth teg o safbwyntiau pobl wahanol yn ein cymunedau yn unig. Eto, gallwch ddewis peidio â rhoi rhai neu'r holl ddata personol rydym yn gofyn amdano.

Gyda phwy y rhennir eich gwybodaeth?


Mae’r data personol neu gategori arbennig yr ydych yn ei ddarparu fel rhan o unrhyw weithgaredd ymgysylltu a gynhelir gan y CIDT yn cael ei rannu gyda gwasanaeth y Cyngor sy’n comisiynu’r gwaith, ond ni chaiff ei rannu gydag unrhyw wasanaeth arall yn y Cyngor neu unrhyw drydydd parti, oni bai bod sail gyfreithiol lle mae gofyn i ni wneud hynny.

Os oes eithriad lle caiff y data ei rannu gyda rhywun arall, caiff hynny ei ddatgan yn glir ar ddechrau’r ymgysylltiad.

 Am ba hyd fyddwn yn cadw’r wybodaeth?

Ni fyddwn yn cadw’r data personol neu gategori arbennig a gesglir yn ystod y gweithgaredd am fwy na 12 mis oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol i ni gadw eich manylion cyswllt er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad neu ar gyfer dibenion marchnata yn y dyfodol.

Eich hawliau o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Mae hawl gennych i:

  • gael mynediad at y wybodaeth bersonol mae’r Awdurdod Lleol yn ei brosesu amdanoch;
  • gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y wybodaeth honno;
  • yr hawl (mewn rhai sefyllfaoedd) i wrthwynebu prosesu ar sail sy’n ymwneud a’ch sefyllfa arbennig
  • yr hawl i gyfyngu ar y prosesu (mewn rhai sefyllfaoedd)
  • gwneud cwyn i’r comisiynydd gwybodaeth sy’n rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Ein manylion cyswllt

Er mwyn darganfod mwy am y wybodaeth mae’r Tîm Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol yn ei gadw a sut rydym yn ei ddefnyddio, neu os dymunech arfer eich hawliau o dan GDPR, cysylltwch â ni ar:

E-bost cidt@conwy.gov.uk

Ffôn: 01492 576058

Manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr, Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

Ffôn: 029 2067 8400

Ffacs: 029 2067 8399

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content