Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Digwyddiadau a Beth Sydd Ymlaen

Hysbysiad Preifatrwydd Digwyddiadau a Beth Sydd Ymlaen


Summary (optional)
start content

Ein Cyfrifoldebau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu, prosesu ac yn cadw ystod eang o wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, er mwyn darparu gwasanaethau o fudd i chi.

Rydym yn gyfrifol am reoli’r wybodaeth sydd gennym ac yn nodi bod y wybodaeth hon yn bwysig i chi.  Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn deg, yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cwblhau contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.  Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).

Dylid darllen Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg ar y cyd gyda Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd i’w weld ar https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at bwrpasau cyfyngedig a bydd o hyd yn unol â’n cyfrifoldebau; pan mae sail gyfreithiol ac yn unol â'ch hawliau dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, a all gynnwys eich enw, sefydliad y cyfryngau, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad a’ch rhif ffôn at y pwrpasau canlynol:

  • anfon gwybodaeth atoch ynglŷn â digwyddiadau ym Mwrdeistref Sirol Conwy fel gwestai, cystadleuwr, arddangoswr, stondinwr, cyflenwr neu randdeiliad;
  • galluogi i ni gyfathrebu â chi a darparu’r gwasanaethau sydd ei angen arnoch;
  • monitro ein perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau i chi;


Efallai na fyddai modd darparu’r gwasanaeth hwn i chi os nad oes gennym wybodaeth ddigonol.

Rydym yn anelu at gadw eich gwybodaeth yn gywir ac yn ddiweddar. Gallwch ein helpu ni i wneud hyn ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni os yw’r wybodaeth a roesoch i ni, megis eich cyfeiriad, yn newid.

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Byddwn ond yn casglu, dal a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny. Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Byddwn yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel, pan nad oes ei hangen mwyach.  Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel os ydych yn rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth mwyach.

Gyda phwy y gallwn rannu’r wybodaeth hon?

Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti arall, oni bai fod hynny’n ofynnol dan y gyfraith. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth at bwrpasau marchnata gyda chwmnïau tu allan i Wasanaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo na’i rhannu gydag unrhyw sefydliad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Sut i gysylltu gyda ni

I arfer unrhyw rai o’ch hawliau o dan y ddeddf Diogelu Data, cysylltwch â ni:

Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata
Bodlondeb
Ffordd Bangor
Conwy
LL32 8DU


Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch gennym, mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content