Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Penodol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol

Hysbysiad Preifatrwydd Penodol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol


Summary (optional)
start content

Mae’r hysbysiad hwn yn gymwys i wybodaeth sy’n cael ei darparu gan unigolyn a allai godi pryderon am unrhyw agwedd o waith y Cyngor, un ai’n uniongyrchol neu gyda’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, neu wybodaeth sy’n cael ei phasio i’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn dilyn adroddiad i wasanaeth arall o fewn y Cyngor.

Gall pryderon gynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Gweithred yn erbyn Cyfansoddiad y Cyngor neu dorri polisïau’r Cyngor
  • Gweithred yn erbyn Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol
  • Ymddygiad amhriodol neu pan na fodlonir safonau neu arferion sefydledig
  • Trosedd, megis twyll neu ddwyn
  • Camddefnyddio neu gam-drin adnoddau’r Cyngor
  • Celu unrhyw weithred a nodir uchod

Pwrpas a Sail Gyfreithiol

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei ddyrannu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra.  Ar gyfer perfformiad contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.

Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau  (Cymru).

Gwybodaeth a Gasglwyd

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall yn seiliedig ar y pryderon a godwyd

Gyda phwy y gallwn Rannu’r Wybodaeth Hon?

  • Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor
  • Yr Heddlu neu Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Unrhyw drydydd parti arall a fyddai angen cysylltu â nhw yn seiliedig ar y pryderon a godwyd

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw wlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Am Ba Hyd y Byddwn yn Cadw eich Gwybodaeth?

Os yw eich pryder yn cael ei archwilio byddwn yn cadw’r wybodaeth am 6 mlynedd lawn.  Os yw eich pryder yn ddi-sail byddwn yn cadw’r wybodaeth am 2 flynedd.

Eich Hawliau Gwybodaeth

Gellir gweld Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor: www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd. Dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae gennych chi fel “Gwrthrych Y Data”, yr hawliau canlynol.

Mae gennych hawl:

I gyrchu’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch – gwnewch gais ar-lein neu cysylltwch â ni ar y Manylion Cyswllt arferol, isod.

I wneud cais i gywiro unrhyw wybodaeth amdanoch sy’n anghywir – Gellir newid gwallau syml megis newid mewn cyfeiriad, yn dibynnu ar bwrpas ei ddefnydd. Efallai na fydd hi’n bosib newid cofnodion megis datganiadau neu farn, ond bydd dewis i chi ddarparu datganiad ychwanegol, a fydd yn cael ei ychwanegu i'r ffeil.  

I wneud cais i ddileu’r cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch - gall hyn fod yn gyfyngedig, yn dibynnu ar y sail gyfreithiol.

I gyfyngu’r defnydd o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch – Os ydych wedi gwrthwynebu, efallai y byddwn yn cyfyngu’r cyfnod ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio.

I wneud cais i gael unrhyw wybodaeth ‘rydych wedi ei darparu i ni yn ôl ar fformat y gallwch ei roi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen – mae hyn ond yn berthnasol os yw'r wybodaeth rydych wedi ei darparu yn ymwneud â pherfformiad y contract.

I wrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol, yn cynnwys gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio - ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomatig neu broffilio.

I wneud cwyn – gallwch wneud cwyn i’r Swyddfa Comisiynu Gwybodaeth os nad ydych yn hapus gyda sut yr ymdriniwyd â’r wybodaeth amdanoch. Mae manylion cyswllt y Swyddfa Comisiynu Gwybodaeth wedi'u cynnwys ar Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Manylion Cyswllt

Rheolwr Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Pennaeth Gwasanaethau Archwilio a Chaffael
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

Ffôn: 01492 576210
Ebost: mike.halstead@conwy.gov.uk 

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Derek O’Connor
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

Ffôn: 01492 574016
Ebost: derek.oconnor@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content