Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd - Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy

Hysbysiad Preifatrwydd - Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy


Summary (optional)
Mae Erthygl 13 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol darparu Hysbysiad Preifatrwydd i unigolion i’w hysbysu o’r wybodaeth isod mewn perthynas â phrosesu eu data personol.
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion cyflawni ein dyletswyddau o sicrhau y cydymffurfir â phob agwedd ar Ddeddf Clefydau Trosglwyddadwy a Diogelu Iechyd o fewn ein cyfrifoldeb. 

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol yw:

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn gyflawni ein dyletswyddau a sicrhau bod yr holl bartïon perthnasol yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan yr agweddau ar Ddeddf Clefydau Trosglwyddadwy a Diogelu Iechyd o fewn ein cylch gwaith.  

Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd parti at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i ddarparu ein gwasanaeth i chi.

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Y categorïau o ddata personol sy’n cael eu casglu yw: Enw a manylion cyswllt. 

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK-GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn isod:

  • Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae angen y prosesu er mwyn i ni allu cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen mwy o amddiffyniad arnynt. Caiff hwn ei ddosbarthu fel ‘data categori arbennig’ ac mae’n cynnwys rhif GIG, meddygfa, canlyniadau profion, data iechyd ac mewn rhai achosion manylion am eich credoau crefyddol neu athronyddol neu a phrosesu iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data categori arbennig yw:

(gweler Data categori arbennig | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Yn dibynnu ar y gwasanaeth penodol, rydym yn prosesu data personol yn unol ag Erthygl 6c (rhwymedigaeth gyfreithiol) neu 6e (tasg gyhoeddus) o’r DU-GDPR.


Mae ein defnydd o ddata categori arbennig wedi’i gyfiawnhau gan Erthygl 9h (darparu a/neu reoli iechyd neu ofal cymdeithasol), neu 9i (budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd), neu 9j (dibenion ystadegol), yn ôl y gwasanaeth penodol neu Swyddogaeth Iechyd Cyhoeddus.

Mae angen i ni hefyd fodloni’r amod cysylltiedig yng nghyfraith y DU, a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 DPA 2018, sef DPA 2018 Atodlen 1, Rhan 1, Paragraff 3.

Sut / lle caiff eich data ei storio:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amrywiaeth o systemau gwahanol i storio a phrosesu eich data, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnal yn fewnol.  Fodd bynnag, rydym yn rhannu gwybodaeth benodol i gronfa ddata a rennir a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag sydd angen, byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni am hyd at 7 mlynedd a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.  Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru/GIG am gyfnod gwahanol o amser ac efallai y bydd gan swyddogion y Cyngor fynediad at y data hwn o gronfeydd data a weithredir gan y sefydliadau hynny.  Gellir dod o hyd i Hysbysiad Preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn:Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu:

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, bydd hyn yn cynnwys:

Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), GIG Cymru ac Awdurdodau Lleol neu Asiantaeth Safonau Bwyd eraill yn ôl y gofyn.  Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data gyda chyrff gorfodi eraill os oes angen. 

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys: 

  • · yr hawl i gael gwybod
  • · yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi
  • · yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch
  • · yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach
  • · yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol   .
  • · yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.

Yn yr amgylchiadau prin lle’r ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gellwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:

 Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):

Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

Cyswllt gwasanaeth:

Tîm Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, CONWY, LL30 9GN
DiogelwchBwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk 

Uned Llywodraethu Gwybodaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â’r:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content