Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Datblygu a Rheoli Cronfeydd Cyllid

Datblygu a Rheoli Cronfeydd Cyllid


Summary (optional)
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a dim ond i brosesu eich cais/ymholiad ac i ddarparu'r wybodaeth a'r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn i ni amdanyn nhw y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Er mwyn i chi gael gwybodaeth ac/neu gymorth gan Datblygu a Rheoli Cronfeydd Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, byddwn yn cofnodi eich gwybodaeth bersonol. Heb eich gwybodaeth bersonol mae’n bosib na fyddwn yn gallu darparu’r wybodaeth/gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yn y ffyrdd a ganlyn:

  • i’n helpu i ddelio â’ch ymholiad;
  • i’n helpu i brosesu cais am grant neu gyllid;
  • i’ch galluogi i gael gafael ar gynnyrch a gwasanaethau perthnasol, e.e. GRANTfinder; Cymorth i Fusnesau;
  • i gyfathrebu â chi;
  • i brosesu trafodion ariannol ar gyfer grantiau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â ni; ac
  • i’n galluogi i wella ansawdd ein gwasanaethau.

Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i adrannau eraill ac asiantaethau partner y Cyngor at ddibenion dilysu cais am grant neu ganfod cyfleoedd eraill i gael cyllid.

Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond:

  • pan fo’n ofynnol dan y gyfraith; neu
  • pan mae’n cael ei ganiatáu fel arall dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Nodwch:

 ‘Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cyflawni contract neu dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.   Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.’ 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Am chwe blynedd o ddyddiad eich ymholiad neu, ar gyfer grantiau a ddyfernir, saith mlynedd o ddyddiad talu’r grant.

Eich hawliau gwybodaeth

I gael manylion llawn am eich hawliau gwybodaeth, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn:  www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

Mae gennych hawl i:

  • weld y data rydym yn ei gadw;
  • cywiro unrhyw anghywirdebau;
  • cyfyngu’r defnydd o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch os ydych wedi codi gwrthwynebiad, tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio; a  
  • gofyn i ni ddileu cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch chi, ar wahân i wybodaeth sy’n cefnogi ceisiadau am grant, cyn y cyfnod a nodir uchod.


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni:

Datblygu a Rheoli Cronfeydd Cyllid neu Uned Llywodraethu Gwybodaeth,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,

Conwy,
LL30 9GN

cyllid@conwy.gov.uk
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb a gewch gennym, mae gennych hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru,
Ail Lawr,
Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd,
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk


Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Gorffennaf 2021
Datblygu a Rheoli Cronfeydd Cyllid

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content