Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Teledu Cylch Caeedig mewn Man Cyhoeddus

Hysbysiad Preifatrwydd Teledu Cylch Caeedig mewn Man Cyhoeddus


Summary (optional)
start content

Ein cyfrifoldebau

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi beth ddylech ei ddisgwyl pan fo ein camerâu TCC ac offer gwyliadwriaeth perthynol a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu deunydd wedi'i recordio a data a allai gynnwys gwybodaeth bersonol.

Rydym yn gyfrifol am reoli’r wybodaeth a ddelir gennym ac yn cydnabod pwysigrwydd y wybodaeth yma i chi.  Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri, ac fe fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ffordd sy’n deg, yn briodol, ac yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol y ddeddfwriaeth Diogelu Data bresennol.  

Mae’n ofynnol i ni gael sail gyfreithlon er mwyn prosesu eich data. Yng nghyd-destun TCC mewn mannau cyhoeddus, ein sail gyfreithlon yw 'gorchwyl cyhoeddus'. Yn ein Cod Ymarfer TCC nodir mai ein prif reswm dros wneud hyn yw I ‘[d]darparu amgylchedd diogel ar gyfer y rheiny sydd yn byw, yn masnachu, yn ymweld ac yn gweithio yn yr ardal’.

Mae gennym hefyd offer TCC a systemau gwyliadwriaeth eilaidd ar draws y Fwrdeistref, ac mae’r Adran TCC mewn Mannau Cyhoeddus yn gweithredu fel man cyswllt unigol ar gyfer y rhain.

SCC Certificate of Compliance (Saesneg yn unig)

Pam fod angen eich gwybodaeth arnom

Er mwyn penderfynu pa sail gyfreithlon a phwrpas sydd gennym dros brosesu eich data ac felly pam fod arnom ei angen, byddwn yn cynnal Asesiad O'r Effaith Ar Breifatrwydd ar bob cynllun TCC a system wyliadwriaeth. Byddwn yn dogfennu hyn mewn cyswllt â Chod Ymarfer TCC yn unol â'n cyfrifoldebau.

Lle bo modd, byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth yma ar ein tudalennau gwe yn ymwneud â TCC.

Sut y byddwn yn casglu eich gwybodaeth

Wyneb yn wyneb

Mae’n bosib y byddwn yn cadw cofnod o’ch ymweliad â ni er mwyn ein cynorthwyo wrth gyflenwi a gwella ar y gwasanaethau a ddarparwn i chi ac i eraill.  Cedwir unrhyw gofnodion o’r fath – e.e. llyfr cofrestru ymwelwyr a allai gynnwys gwybodaeth bersonol – yn ddiogel.

Galwadau ffôn: 

Fel arfer byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn recordio neu’n monitro unrhyw alwadau ffôn gennych.  Mae’n bosib y byddwn yn gwneud hyn er mwyn cynyddu eich diogelwch; er mwyn bod â chofnod o alwad yn digwydd a/neu at amcanion hyfforddi ac ansawdd.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Mae gan adran TCC mewn Mannau Cyhoeddus Conwy gyfrif Twitter. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ar sut mae Twitter yn prosesu gwybodaeth, gweler Polisi Preifatrwydd

E-byst

Os byddwch yn ein he-bostio, mae’n bosib y byddwn yn cadw eich e-bost fel cofnod o’r ffaith eich bod wedi cysylltu.  Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost. Ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu gyfrinachol fel arall mewn unrhyw e-bost a ddanfonwn atoch oni bai ei fod yn cael ei ddanfon yn ddiogel neu eich bod wedi cytuno i ni gysylltu â chi â’r wybodaeth hon yn y ffordd yma.  

Rydym yn defnyddio Egress Switch er mwyn amgryptio ac amddiffyn e-byst yn unol â’n polisïau e-byst. Am fwy o wybodaeth, gweler Egress | Polisi Preifatrwydd

TCC a Systemau Gwyliadwriaeth:

Mae gennym TCC mewn Mannau Cyhoeddus mewn 15 o drefi ar draws Bwrdeistref Sirol Conwy, ac rydym hefyd yn rheoli systemau arunig mewn adeiladau a lleoliadau allweddol. Bydd arwyddion wedi eu harddangos yn glir yn rhoi gwybod i chi fod TCC yn gweithredu, ac yn rhoi manylion cyswllt y sawl y dylech gysylltu â nhw i gael gwybodaeth bellach amdanynt.

Map Lleoliad Camerâu TCC

At bwrpas diogelwch y cyhoedd ac atal a chanfod troseddau yn unig y bydd delweddau TCC yn cael eu datgelu i drydydd partïon.

Locer Tystiolaeth Fideo:

Cedwir yr holl ddeunydd o gamerâu a systemau gwyliadwriaeth a all fod yn cynnwys data personol yn ddiogel mewn loceri tystiolaeth â mynediad cyfyngedig atynt, yn unol â pholisïau dargadwedd lleol.

Cronfa Ddata:

Mae TCC mewn Mannau Cyhoeddus Conwy yn cofnodi bob digwyddiad a ddaliwyd ar gronfa ddata electronig o'r enw Fusion Incident. Rydym yn defnyddio’r data a gesglir yn Fusion er mwyn casglu a chyhoeddi ystadegau. Enghraifft o hyn yw cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol, sydd yn dangos gwybodaeth megis nifer y digwyddiadau a nifer y ceisiadau a dderbynnir, ond nid mewn modd sydd yn enwi unrhyw un. 

Dim ond am yr hyd sy’n unol â’n rhaglen ddargadwedd a thra bo ei hangen i gyflawni'r swyddogaethau uchod y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol.

Gwefannau eraill:

Ar ein gwefan byddwch yn dod o hyd i ddolenni ar gyfer gwefannau allanol sydd wedi eu darparu er gwybodaeth a chyfleustra i chi.  Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hynny. Pan fyddwch yn ymweld â gwefannau eraill, rydym yn argymell eich bod yn cymryd amser i ddarllen eu hysbysiadau preifatrwydd.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud â’ch gwybodaeth

Wrth benderfynu ar ba wybodaeth bersonol i’w chasglu, ei defnyddio a’i chadw, rydym yn ymroddedig i sicrhau ein bod:

  • yn casglu, cadw a defnyddio gwybodaeth bersonol lle bo hynny yn angenrheidiol ac yn deg yn unig.
  • yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
  • yn cael gwared yn ddiogel ar unrhyw wybodaeth bersonol nad oes arnom ei hangen bellach.
  • yn agored â chi am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth ac â phwy y byddwn yn ei rhannu.
  • yn mabwysiadu a chynnal yr arferion gorau wrth ymdrin ag unrhyw wybodaeth bersonol.

Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo hynny yn ofynol yn ôl cyfraith, a'r trydydd parti hwnnw angen eich gwybodaeth at ddibenion darparu gwasanaeth i chi ar ein rhan; neu lle caniateir hynny gan ddeddfwriaeth diogelu data.  Byddwn yn ymdrechu i sicrhau fod gan y trydydd parti systemau a gweithdrefnau cadarn yn eu lle er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol.

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

  • Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth yn hirach nac sydd ei angen.  Cedwir y rhan fwyaf o recordiadau TCC am 31 diwrnod ond gall hyn fod yn ddibynnol ar eu lleoliad a’u pwrpas. Mae ein rhaglenni dargadwedd dogfennau yn cynnwys gwybodaeth am ba mor hir y byddwn yn cadw mathau gwahanol o wybodaeth.
  • Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

Y sawl y gallem rannu’ch gwybodaeth â nhw

Mae’n bosib y caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu â phartneriaid allanol ac asiantaethau sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau ar ein rhan.  Dim ond os oes arnynt angen eich gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaeth i chi y byddant yn cael mynediad at yr wybodaeth honno.

Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd partïon, ond dim ond lle bo hynny yn angenrheidiol, naill ai er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith neu lle caniateir hynny yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae esiamplau o drydydd partïon y gallem rannu eich gwybodaeth â nhw yn cynnwys (heb fod yn gyfyngedig i):

  • Yr Heddlu
  • Cyllid a Thollau E M (CThEM)
  • Asiantaeth Ffiniau'r DU (AFfDU)
  • Cyrff Rheoli megis Gwasanaethau Amgylcheddol
  • Os caiff eich gwybodaeth bersonol ei throsglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) am unrhyw reswm, byddwn yn sicrhau fod dulliau diogelu ar waith i’w hamddiffyn hyd at o leiaf yr un safon a weithredir o fewn yr AEE.

Eich hawliau gwybodaeth

Yn unol â deddfwriaeth diogelu data mae gennych chi fel “Gwrthrych y Data” yr hawliau a ganlyn.  

Mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad at yr wybodaeth sydd gennym amdanoch.
  • Wneud cais i ni gywiro unrhyw wybodaeth amdanoch sy’n anghywir. Gellir gwneud newidiadau i anghywirdebau bychain fel cyfeiriadau post, er enghraifft, ond gall ddibynnu ar y pwrpas.  Ni ellir newid cofnodion, yn cynnwys datganiadau a mynegiant o farn, ond bydd yr opsiwn ar gael i chi ddarparu datganiad atodol, a gaiff ei ychwanegu at y ffeil.  
  • Wneud cais i ddileu cofnodion sydd gennym amdanoch.
  • Gyfyngu ar y defnydd o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch os ydych wedi mynegi gwrthwynebiad, tra yr ymchwilir i'r gwrthwynebiad hwnnw.
  • Wneud cais am ddychwelyd unrhyw wybodaeth yr ydych chi wedi ei darparu i ni atoch mewn fformat y gallwch ei roi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen.
  • Wrthwynebu i'r defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys awtomeiddio penderfyniadau a phroffilio.
  • Wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon â'r modd yr ymdriniwyd â gwybodaeth amdanoch.

Cael mynediad at yr wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Mae gennych yr hawl i wneud cais am gopi o'ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys cofnodion ar ffilm sydd gennym amdanoch.  Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data dros e-bost neu drwy’r post, os gwelwch yn dda, gan roi cymaint â phosib o fanylion am y data sydd arnoch ei angen. Gweler isod am sut i gysylltu â ni.

Diogelu Data – Gwneud cais am eich data.

Byddwch yn derbyn copi o’r wybodaeth a ddelir amdanoch ynghyd ag esboniad o unrhyw godau a ddefnyddir ac unrhyw eglurhad arall y gellid bod ei angen.

Gwneud cais i rywun arall edrych ar eich gwybodaeth ar eich rhan

Gallwch wneud cais i rywun arall edrych ar eich cofnodion ar eich rhan.  Er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig i ni, gan roi gwybod pwy yw’r sawl yr ydych am iddynt edrych ar y wybodaeth ar eich rhan.  Os oes perthynas, cynrychiolydd cyfreithiol neu rywun arall eisiau edrych ar gofnodion unigolyn na all roi caniatâd, rhoddir caniatâd pan fo modd dangos fod hynny er lles pennaf y person dan sylw yn unig.

 

Sut i gysylltu â ni

Er mwyn arfer unrhyw un o’ch hawliau yn unol â deddfwriaeth diogelu data, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda: 

Uned Llywodraethu Gwybodaeth 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb 
Conwy 
LL32 8DU

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a dderbyniwch gennym, mae gennych yr hawl i wneud cwyn

i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy trwy fynd i: Cwyn

I Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy gysylltu â:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr
Tŷ Churchill   
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH                     


Rhif ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content