Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Democrataidd

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Democrataidd


Summary (optional)
Mae’n angenrheidiol i’r Cyngor gasglu data personol sydd a wnelont ag aelodau o’r cyhoedd, Aelodau Etholedig (Cynghorwyr) ac Aelodau Cyfetholedig Annibynnol, eu cadw a’u prosesu er mwyn cyflawni’r swyddogaeth Gwasanaethau Democrataidd.
start content

Dibenion prosesu eich data personol

Mae’n angenrheidiol prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau canlynol:

  • Mae’r Gwasanaeth yn cyhoeddi rhaglenni a chofnodion ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyngor, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth gefndirol sy’n rhoi sail ar gyfer y drafodaeth, a gallai hynny gynnwys gwybodaeth bersonol. Darlledir rhai cyfarfodydd y Cyngor dros y we hefyd.  
  • Mae’r Gwasanaeth yn casglu gwybodaeth gennych chi at ddibenion gweinyddu’r cynllun deisebau (boed ar bapur neu drwy e-ddeisebau), hynny yw, fel y gellir cyflwyno e-ddeiseb a'i 'llofnodi'
  • Mae’r Gwasanaeth yn casglu gwybodaeth gennych at ddibenion gweinyddu'r swyddogaeth Trosolwg a Chraffu, hynny yw, cyflwyno pynciau i graffu arnynt a chyflwyno sylwadau ynglŷn ag adroddiadau.
  • Mae’r Gwasanaeth yn gweinyddu apeliadau, gan gynnwys Apeliadau Rhyddhad Ardrethi Dewisol a Gorfodol, Apeliadau Trwyddedu ac Apeliadau Ysgolion (Derbyn a Gwahardd).
  • Treuliau Aelodau
  • Cofrestr yr Aelodau o Anrhegion a Lletygarwch
  • Cofrestr o Fuddiannau gan Aelodau
  • Aelodau’n Datgan Cysylltiad
  • Hwyluso cyfarfodydd/digwyddiadau dinesig
  • Cwynion am Ymddygiad Aelodau
  • Derbyn Dogfennau Tendr.

Categorïau data personol a’r sail gyfreithlon

Er mwyn darparu’r gwasanaeth, gallai fod angen i’r Cyngor brosesu rhai neu bob un o’r categorïau canlynol o wybodaeth bersonol ynglŷn ag aelodau o’r cyhoedd, Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig Annibynnol:

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Manylion ariannol
  • Dulliau adnabod
  • Perthynas agosaf, enw a manylion cyswllt
  • Tystiolaeth i ategu apeliadau trwyddedu, apeliadau ysgolion a phenodiadau
  • Gwybodaeth Aelodau

Mae’r ddeddfwriaeth diogelu data’n caniatáu inni ddefnyddio’ch gwybodaeth fel hyn, gan fod arnom ddyletswydd statudol ac er mwyn sicrhau mynediad at wasanaethau’r Cyngor.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol

  • Cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd y Cyngor yn gyhoeddus.  Mae rhaglenni a phapurau’r cyfarfodydd hyn ar gael i’r cyhoedd ymlaen llaw.  Mae darllediadau dros y we, cofnodion a manylion y penderfyniadau hefyd ar gael i’r cyhoedd ar wefan y Cyngor.
  • Mae e-ddeisebau, Treuliau Aelodau, Datganiadau Buddiannau gan Aelodau, y Gofrestr o Fuddiannau gan Aelodau, a Chofrestr yr Aelodau o Anrhegion a Lletygarwch hefyd ar gael i’r cyhoedd gan y'u cyhoeddir ar wefan y Cyngor.
  • Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae’n angenrheidiol rhannu’r wybodaeth â hwy fel y gall y Gwasanaethau Democrataidd gyflawni eu dyletswyddau.
  • Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cynghorau Tref a Chymuned
    • Awdurdodau lleol eraill a chyrff sector cyhoeddus
    • Llywodraeth Cymru
    • Y Gymdeithas Llywodraeth Leol
    • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
    • Heddlu Gogledd Cymru
    • Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
    • Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru
    • Archwilwyr allanol
    • Aelodau Panel Derbyniadau a Gwaharddiadau Ysgolion
    • Sefydliadau allanol
    • Cyrff Llywodraethu Ysgolion

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn cadw’ch gwybodaeth a’i dinistrio yn unol â’r hyn a nodir yn y Rhestr Cadw a Gwaredu. Gellir gweld copi o'r Rhestr drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Eich Hawliau

Mae gennych hawl:

  • I weld yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch
  • I ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch os yw’n anghywir. Gwneir mân gywiriadau, fel newid cyfeiriadau, ond bydd yn dibynnu at ba ddiben y defnyddir yr wybodaeth.   Efallai na fydd hi’n bosib newid cofnodion megis datganiadau neu farn, ond bydd dewis i chi ddarparu datganiad ychwanegol, a fydd yn cael ei ychwanegu i'r ffeil. 
  • I ofyn am ddileu cofnodion sydd gennym amdanoch.
  • I gyfyngu ar y defnydd o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch os ydych wedi codi gwrthwynebiad, tra cynhelir ymchwiliad i’ch gwrthwynebiad.
  • I wneud cais i gael unrhyw wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn ôl ar ffurf y gallwch ei roi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen.
  • I wrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol, yn cynnwys gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio.
  • I wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon ar y modd yr ymdriniwyd â’r wybodaeth amdanoch. 

Rheolwr Data

Delyth E Jones
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU

Mae copi o Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael ar wefan y Cyngor – https://www.conwy.go.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content